Skip page header and navigation

Mae Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn edrych ymlaen at lansio’i phrosiect newydd ‘TANIO’ a fydd yn sbarduno creadigrwydd ymhlith plant a phobl ifanc yr ardal fel rhan o’r prosiect gyffrous.  

Bachgen yn ei arddegau yn gwyro i lawr i deipio cyfarwyddiadau i mewn i liniadur.

Bu’r Egin yn llwyddiannus gyda’i chais i’r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy, sy’n rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ar gyfer y prosiect “TANIO”, gyda £178,636 yn cael ei ddyfarnu ar gyfer y prosiect.              

Nod ‘Tanio’ yn ei chyfanrwydd yw hyrwyddo balchder bro, hyder a chreadigrwydd. Er mwyn cyflawni hynny ac ysgogi defnydd o’r Gymraeg a dymuniad i ddatblygu gyrfa ym maes y diwydiannau creadigol mae cynnig arbennig  i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau creadigol mewn cyfres o glybiau arbenigol yn wythnosol. Bydd y sesiynau a gynhelir bob nos Fawrth yn addas ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd o flwyddyn 4 i flwyddyn 10+ a rheiny yn rhad ac am ddim.

Bydd y clybiau’n dechrau ar nos Fawrth, y 23ain o Ionawr.  

ASBRI yw’r clwb i ddisgyblion blwyddyn 4–6 sy’n cael ei gynnal rhwng 16:00–17:00,  yna rhwng 17:00 a 18:00 cynhelir clwb CLIC ar gyfer disgyblion blwyddyn 7–9 ac ar gyfer disgyblion blwyddyn 10+ rhwng 18:00–19:00  cynhelir clwb SLIC. Mi fydd pawb yn cael y cyfle i ddysgu, datblygu a rhannu sgiliau cyfryngol a digidol yn nghwmni ymarferwyr profiadol.  

Un sydd wedi buddio o fod yn aelod o’r prosiect hwn yn y gorffennol yw Heti Hywel:  

“Fel unigolyn ifanc, mae’r cyfleoedd a’r sgiliau a gafwyd trwy gymryd rhan mewn clybiau creadigol fel SLIC wedi bod yn amhrisiadwy. Rwyf wedi magu hunan hyder, ac mae’r clybiau wedi darparu profiadau gwaith amrywiol, gan gynnwys cyfrannu at ddigwyddiadau fel Eisteddfod Yr Urdd gyda chwmni Afanti.

“Mae gweld bod darpariaeth clybiau creadigol ar gael i blant ifanc heddiw yn wirioneddol wych. Pe bai cyfleoedd o’r fath ar gael pan oeddwn ni yn 12 oed, byddwn yn ddi-os wedi bachu ar y cyfle.”

Bachgen a merch yn edrych ar eu ffonau wrth yfed â gwellt plastig.

Osian Evans, o gwmni Moilin, sydd â swyddfa yn Yr Egin, fydd yn arwain y gyfres gynta’ o sesiynau ac mae’n edrych ymlaen at groesawu nifer i’r ganolfan:  

“ Fy ngobaith yw y bydd y rhaglen hon nid yn unig yn eu dysgu sut i ddefnyddio’r offer creadigol, ond yn rhyddhau eu dychymyg, gan eu helpu i ddod o hyd i’w lleisiau, a defnyddio grym cyfryngau digidol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau a’r byd ehangach.”

Meddai Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin:  

“Yn Yr Egin, mae meithrin talent yn amcan hollbwysig. Rydyn ni’n blaenoriaethu rhoi rhyddid i blant a phobl ifanc fynegi eu creadigrwydd mewn amgylchedd diogel, wedi’i hwyluso gan weithwyr proffesiynol i ennill sgiliau newydd. Nod y clybiau creadigol yw hynny’n union. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i groesawu aelodau newydd y clybiau i’r Egin, gan annog pawb i gofrestru mor gynted er mwyn sicrhau lle. Mi fydd Asbri, Clic a Slic yn cynnig cyfleon gwerthfawr ar gyfer datblygiad plant a phobol ifanc y sir, yn enwedig wrth danio eu creadigrwydd a’u sgiliau digidol.”

Elfen arall o brosiect TANIO yw datblygu gwasanaeth ‘teledu lleol’ arlein ar gyfer Sir Gaerfyrddin, sianel ddigidol a fydd yn rhannu straeon personol am fyw yn y sir, ei threftadaeth a’i diwylliant. Mi fydd y clybiau yn bwydo i’r sianel ac mae tîm yn Yr Egin yn edrych ymlaen at sicrhau effaith ieithyddol, diwylliannol a chreadigol yn sgil y prosiect gyffrous.

I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â helo@yregin.cymru 

Bachgen yn gwisgo clustffonau realiti rhithwir.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau