Skip page header and navigation

Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol Ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC)

Canolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn dysgu a datblygu arfer yw ACAPYC, sy’n cynnig rhaglenni/DPP pwrpasol, o gyrsiau byr i ddoethuriaethau, ar gyfer gweithwyr proffesiynol a’u sefydliadau.

I ddysgu am ein ar holl wasanaethau a’n harlwy, lawrlwythwch ein prosbectws:

Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol Ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC)

a group of people listening to a conference

Ymchwil ac Arloesi

Mae ein harweinwyr meddwl ym maes dysgu proffesiynol yn cefnogi ein grwpiau ymchwil Doethurol/Meistr a’n harlwy ymchwil/ymgynghoriaeth.

Mae ACAPYC ar flaen y gad o ran gwaith ymchwil a gwerthuso mewn arfer a datblygu. Mae ein staff yn cynnal eu proffiliau ymchwil unigol eu hunain yn ogystal â chynnal grwpiau Doethurol mewn Hyfforddi a Mentora.

Mae ein Doethuriaeth unigryw mewn Arfer Proffesiynol yn croesawu uwch ymarferwyr ar draws sectorau a disgyblaethau. Ymunwch â’n cymuned Ddoethurol ryngwladol gydag ymgeiswyr o Hong Kong, America ac Ewrop.

Ymchwil mewn Ymarfer a Datblygiad Proffesiynol

Datrysiadau ymchwil effeithiol ac arloesol i heriau’r byd go iawn. Mae ein hymgeiswyr PhD wedi cyhoeddi tri llyfr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Mae ymchwil wrth wraidd ein gwaith ym maes datblygiad proffesiynol, felly gallwch fod yn sicr bod ein darpariaeth ar flaen y gad o ran ymarfer.

Mae ein prif ddarlithwyr: Yr Athro Stephen Palmer, Dr Annette Fillery-Travis a Dr Christine Daavies ymhlith yr ymchwilwyr mwyaf cynhyrchiol a ddyfynnir yn aml ym maes hyfforddi, mentora, seicoleg hyfforddi, straen a llesiant, dysgu proffesiynol, addysg ddoethurol, e-ddysgu a newid sefydliadol, gan gynnal ar yr un pryd ffocws cywir ar anghenion eu hymgeiswyr doethuriaeth.

  • Mae’r Athro Stephen Palmer wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau, a nifer o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid.
  • Mae Dr. Annette Fillery-Travis wedi cyhoeddi’n helaeth a bod yn rhan o ystod o brosiectau’r UE, gan gynnwys arwain un ar arfer gorau mewn goruchwyliaeth ddoethurol a’r prosiect cyfredol Horizon 2020 ar e-ddysgu.
  • Nid yn unig y mae Annette wedi datblygu gweledigaeth unigryw’r Academi yn gartref ar gyfer creu a beirniadu ymchwil cymhwysol, ond mae hi hefyd wedi hyfforddi goruchwylwyr doethuriaeth ledled Ewrop ynghylch ei datblygu. 
  • Mae gan Dr Christine Davies ddiddordeb penodol mewn ymchwil addysgegol a gwella profiad myfyrwyr yn ystod eu rhaglen.

Mae gennym Grŵp Ymchwil bywiog ym maes Hyfforddi a Mentora sy’n cwrdd yn fisol yn Llundain ac sy’n gallu cynnig goruchwyliaeth ddoethurol mewn amrywiaeth o feysydd. Os hoffech ymuno â ni ar eich taith ymchwil chi, yna edrychwch ar ein rhaglenni doethurol yma.

Ar yr adeg allweddol hon i’r Athrofa, mae ACAPYC wedi creu cyfle am gymrodoriaeth. 

Yn ddiweddar rydym wedi mabwysiadu cynllun strategol newydd sy’n rhoi inni’r nod mentrus o ddod yn arweinydd ym maes dysgu seiliedig ar waith, hyfforddi, mentora a llesiant. Gofynnwn gwestiynau newydd i ni ein hunain, ein hymgeiswyr, a’r meysydd yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt.  

Edrychwn yn ddyfnach o lawer i faterion yn ymwneud â pherfformiad sefydliadol a llesiant, lle mae angen gwell tystiolaeth, gwell syniadau, a meddylfryd newydd arnom.  Rydym yn awyddus i ddod yn bartneriaid â phobl gymwys a all ymuno â ni i archwilio rhai heriau allweddol yn ein gwaith.  

Bydd pob cymrawd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ACAPYC, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Ymchwil ar bynciau blaenoriaethol yn gysylltiedig â hyfforddi, mentora a llesiant ac i adnabod cyfleoedd ar gyfer mentrau a rhaglenni’r Athrofa
  • Rhyngweithio ag arweinwyr meddwl allweddol yn natblygiad mentrau’r Athrofa
  • Ysgrifennu ac ymchwilio i gynnwys ar gyfer gohebiaeth yr Athrofa, gan gynnwys blogiau ac erthyglau
  • Rhyngweithio gyda myfyrwyr doethurol ACAPYC

Caiff cymrodyr y cyfle i gymhwyso eu profiad bywyd, proffesiynol ac academaidd, i feddwl am heriau newydd a chyfredol gyda’r nod o gyflwyno safbwyntiau newydd i’n gwaith. 

Os yw’r cyfle hwn yn apelio atoch, yna anfonwch e-bost i coaching@uwtsd.ac.uk.

Hyfforddi a Mentora

Mae Cymdeithas Hyfforddi ACAPYC yn dod ag ymchwil arloesol a seminarau ymarferwyr at ei gilydd yn seiliedig ar raglen Meistr a llwybr Doethurol.

  • Rydym ni’n rhwydwaith o ymarferwyr ac academyddion hyfforddi a mentora o bob cwr o’r byd sy’n wedi ymroi i ddatblygiad hyffordi a mentora.

    Ein nod yw ffurfio cymuned o bobl sy’n ymwneud ag arfer gorau, ymchwil ac ymholiad ym maes arfer hyfforddi a mentora, a defnyddio arbenigedd ymarferwyr, sefydliadau ac academyddion i annog ymholi a deialog dan arweiniad ymarferwyr gyda chyfoedion a phartneriaid hyfforddi a mentora.

    Pan fyddwn yn sôn am waith ymchwil, rydym yn cyfeirio at y continwwm cyfan o ymholiadau rydym yn eu cynnal, o arfer myfyriol unigol hyd at brosiectau ymchwil enfawr â sawl partner. Ar gyfer ymchwiliwyr sydd â diddordeb mewn gwella arfer, boed yn ymarferydd unigol sydd eisiau’r wybodaeth a’r offer diweddaraf i gynnal natur arloesol yr hyn maent yn ei gynnig i’w cleientiaid, neu’n academydd llawn-amser sydd â diddordeb mewn dysgu a newid unigol. 

    Y Nod

    Ond, yn bwysicach fyth, nod ein Cymdeithas yw dysgu gan ein gilydd, rhannu profiadau, a cheisio datblygu’r arfer gorau ar gyfer ymarferwyr hyfforddi a mentora.

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy:

    • Gynnal ein cynhadledd hyfforddi a mentora flynyddol
    • Cyfres o Ddosbarthiadau Meistr gan arweinwyr yn y maes
    • Gweithdai sgiliau
    • Grwpiau trafod

    Bydd pob Myfyriwr Hyfforddi a Mentora yn derbyn aelodaeth flynyddol am ddim.

    Cysylltwch â Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle i ymuno:

  • Yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC), rydym yn cynnig ystod o opsiynau dysgu a datblygu ym maes Hyfforddi a Mentora ac opsiynau datblygu ar gyfer unigolion hyd at lefel Meistr ac ar gyfer carfannau sefydliadol.

    Mae’r Rhaglen Hyfforddi a Mentora yn yr Academi wedi’i datblygu i ddarparu dysgu ac ymarfer ym maes hyfforddi a mentora o lefelau 4 i 7. Mae’r Rhaglen Hyfforddi a Mentora yn manteisio ar brofiad helaeth ein tîm, sydd wedi gweithio ar draws pob sector, ac felly’n rhoi sicrwydd i chi ynghylch ansawdd y ddarpariaeth.

    Rydyn ni’n cydweithio â chi os ydych chi’n dechrau adeiladu sgiliau hyfforddi, gan ddatblygu ymhellach eich arfer proffesiynol ym maes hyfforddi a mentora. Neu, os ydych chi’n ymarferydd profiadol, gallwch chi ddatblygu eich llwybr dysgu eich hun gyda chymorth ein tîm darlithio. Gallwn ni hefyd gefnogi eich datblygiad pe baech chi’n dymuno datblygu’r arbenigedd yn eich rôl arweinyddiaeth ac adnoddau dynol.

    Rydym hefyd yn cynnal cymuned ymarfer ar gyfer ymarferwyr hyfforddi sydd â diddordeb mewn adeiladu corff o wybodaeth drwy ddosbarthiadau meistr rheolaidd a chynhadledd hyfforddi a mentora flynyddol.

    Pa un ai a ydych chi’n awyddus i gomisiynu rhaglen benodol i ddiwallu eich hanghenion sefydliadol neu a ydych yn unigolyn sy’n ceisio dechrau neu ddatblygu eich ymarfer, byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddatblygu llwybr sydd orau i chi. Gallwch chi astudio o blith amrywiaeth o fodylau, neu gallwn ni ddatblygu rhaglen sydd wedi ei theilwra ar gyfer eich anghenion eich hun.

    Strwythur Rhaglen Awgrymedig os ydych chi’n hyfforddwr neu’n fentor newydd

    I ddechrau, mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai a addysgir lle cewch y cyfle i archwilio’r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer hyfforddi a mentora, a’r dulliau a all lywio model ymarfer cydlynol. Cewch chi hefyd gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ymarferol drwy ymarfer hyfforddi a mentora rhwng cymheiriaid.

    Wedyn byddwch yn estyn eich ffocws y tu hwnt i’r personol ac archwilio cyd-destun yr hyfforddi o ran newid sefydliadol, a byddwch yn darganfod sylfaen y newid systemig a rôl unigolyn yn alluogydd.

    Gellir cynnal astudiaethau pellach lle rydych yn datblygu eich dealltwriaeth o fethodolegau ymchwil priodol a fydd yn cefnogi’r rhan olaf o waith academaidd, sef eich prosiect seiliedig ar waith. Mae hyn yn gofyn i chi ymchwilio’n feirniadol i agwedd ar hyfforddi neu fentora sy’n taro tant â chi, ac felly gallai fod yn fwlch yn y farchnad rydych chi wedi’i nodi, newid yr hoffech chi ei weithredu yn eich sefydliad, neu fenter busnes newydd yr hoffech chi ymchwilio iddi. Ym mhob cyfnod, cewch gymorth gan eich goruchwyliwr i helpu i sicrhau bod eich gwaith yn fethodolegol gadarn ac ef/hi fydd yn eich arwain ac yn eich cefnogi gydol eich astudiaethau.

    Yn achos hyfforddwyr profiadol, mae cyfle i hawlio credyd am ddysgu blaenorol a phosibilrwydd gwneud cais i ddod â chredydau i mewn i’ch cymhwyster o ddysgu blaenorol ac ardystiedig a gyflawnwyd ar lefel 7.

    Er enghraifft, mae’r math o ddysgu y gellir ei gydnabod yn cynnwys:

    • Mae Diploma presennol ILM mewn Hyfforddi  a Mentora Gweithredol yn dyfarnu 40 credyd, a gallech wneud cais i ddod â 40 credyd yn eich cymhwyster.
    • Mae gan Ddiploma presennol CMI Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Arweinyddiaeth 46 credyd, a gellir defnyddir 45 o’r rhain ar gyfer y rhaglen.

    Os ydych yn credu y gallech chi fod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr opsiwn ‘llwybr cyflym’ ar gyfer y radd Meistr, trafodwch hynny ag arweinydd y rhaglen cyn i chi wneud eich cais i ymuno â’r rhaglen.

Carmarthen Old Building

Cydweithio â ni fel sefydliad

Os ydych eisiau cwrs byr i’ch staff, neu’n chwilio am becyn Dysgu a Datblygu cyflawn, gan gynnwys achredu eich hyfforddiant eich hun, gallwn ni weithio gyda chi.