Skip page header and navigation

Introduction

Nod y rhaglen genedlaethol hon, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd yn gwneud hyn drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu arloesol i addysg uwch.

Nod Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Ne Orllewin Cymru gyda ffocws arbennig ar ardaloedd yn 40% isaf Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru, pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a gofalwyr.

Rydym yn cael ein hariannu gan Raglen Ymgyrraedd yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a’n partneriaid yw:

  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Sir Benfro
  • Gyrfa Cymru
  • Awdurdodau lleol
  • Ysgolion yn ne-orllewin Cymru

Drwy gydweithio, rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dysgu a chynyddu dyheadau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion a dargedir ar draws de-orllewin Cymru er mwyn creu llwybrau i addysg uwch.

Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth bellach.

Introduction

Aelod o staff yn helpu myfyriwr

Archwilio Eich Dyfodol

Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth rhwng prifysgolion, ysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella symudedd cymdeithasol drwy ehangu mynediad at bob math o addysg uwch.