Skip page header and navigation

Gwybodaeth am UCAS Extra

Yma yn PCYDDS, rydyn ni’n deall y gall y daith i addysg uwch fod yn broses ddeinamig ac yn un sy’n esblygu. Mae UCAS Extra yn opsiwn unigryw a hyblyg sy’n cael ei gynnig gan UCAS ac sy’n agor drysau i fyfyrwyr sydd efallai heb sicrhau lle trwy eu ceisiadau cyntaf neu sy’n awyddus i archwilio posibiliadau addysgol newydd.​ 

Dewch i ddarganfod sut y gall UCAS Extra fod yn addas i chi, gan gynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer eich cwrs prifysgol delfrydol.​ Rydyn ni’n credu yn eich potensial, ac yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.    

Mae ceisiadau UCAS Extra ar agor rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf. 

Canllaw UCAS Extra PCYDDS

Mae UCAS Extra wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd heb dderbyn unrhyw gynigion o’u ceisiadau neu sydd heb ddefnyddio pob un o’r 5 dewis ar eu cais. 

Mae ceisiadau’n cael eu cyflwyno ar wefan UCAS, os ydych yn gymwys bydd gennych yr opsiwn i ‘Ychwanegu Dewis Ychwanegol’ yn yr adran ‘Eich Dewisiadau’. 

Ni fyddwch yn gallu cyflwyno datganiad personol newydd yn ystod proses UCAS Extra.  Bydd y datganiad personol gwreiddiol a wnaed yn gynharach yn y broses UCAS yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol i unrhyw Brifysgol rydych chi’n ei dewis yn ystod proses UCAS Extra.

Mae myfyriwr yn gymwys ar gyfer UCAS Extra os ydyn nhw wedi;

  • Defnyddio pob un o’r pum dewis;
  • Derbyn pum cynnig aflwyddiannus (wedi cael eu gwrthod/ wedi gwrthod);
  • Tynnu’n ôl yn ffurfiol o unrhyw gynigion;
  • Canslo unrhyw ddewisiadau sydd heb benderfyniad a does ganddyn nhw ddim cynigion;
  • Derbyn penderfyniadau gan y pum dewis ac wedi gwrthod pob cynnig a wnaed.
  • Os yw myfyriwr yn gymwys ar gyfer UCAS Extra, bydd botwm yn ymddangos ar UCAS Track o dan yr adran dewisiadau.

Camau Nesaf UCAS Extra

Yn ystod proses UCAS Extra, dim ond ar gyfer un cwrs ar y tro y gallwch chi wneud cais ond does dim pen-draw ar nifer y ceisiadau y gallwch chi eu gnweud. Ar ôl i chi ychwanegu eich dewis Extra bydd y Brifysgol yn ystyried eich cais ac yn penderfynu a ddylid cynnig lle i chi ai peidio.​

Gallwch dderbyn eich cynnig drwy ymateb gan ddefnyddio UCAS, unwaith y caiff ei dderbyn, chi biau’r lle pan fyddwch wedi bodloni’r meini prawf sy’n cael eu nodi yn y cynnig.​  

Gallwch wrthod y cynnig a wnaed drwy UCAS.  Os byddwch chi’n dewis gwrthod gallwch ddechrau chwilio eto drwy Extra.

Os na fyddwch yn cael cynnig, neu os byddwch yn gwrthod cynnig, gallwch chi wneud cais i brifysgol arall trwy UCAS Extra.​ Os nad ydych wedi cael neu dderbyn cynnig cyn y dyddiad cau ar gyfer UCAS Extra, peidiwch â phoeni oherwydd bydd posibiliadau eraill ar gael drwy’r broses *Glirio*. ​

Y Camau Nesaf

P'un ai a ydych chi'n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib

students around a table in London campus

Datganiad personol yw eich cyfle unigryw chi i ymchwilio i'r dyheadau, y profiadau a’r rhinweddau sydd, yn eich barn chi, yn eich gwneud chi'n berffaith ar gyfer y cwrs a'r brifysgol rydych chi wedi’u dewis. ​ Dylai fod yn adlewyrchiad cywir o bwy ydych chi y tu hwnt i'ch cyflawniadau academaidd, gan roi cipolwg ar eich diddordebau, eich cymhellion a'r daith sydd wedi eich arwain at y foment hon.​

Student writing on a notepad

Sgwrsiwch gyda'n Myfyrwyr

Staff member assisting a student
  • Fe all fod yn anodd deall a defnyddio UCAS. Mae UCAS wedi dyfeisio’r rhestr jargon handi hon i alluogi darpar fyfyrwyr i ddeall diben UCAS yn llawn.

    Addasiad (‘Adjustment’) – mewn cais Israddedig UCAS, un o’r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Mae’r un hwn rhag ofn eich bod wedi bodloni a rhagori ar eich amodau ac fe hoffech weld a allech chi gael lle ar gwrs â gofynion mynediad uwch – a hynny gan ddal gafael ar eich lle gwreiddiol a gadarnhawyd.

    Ymgynghorydd (‘Adviser’) – rhywun sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth i chi gyda’ch cais. Gall hyn fod yn athro, tiwtor, cwnselydd, neu asiant.

    Apply – enw ein system ymgeisio ar-lein. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, mae Apply yn cael ei gyfuno gyda Track.)

    Gradd baglor (‘Bachelor’s degree’) – cwrs tair neu bedair blynedd y gallwch ei wneud mewn addysg uwch israddedig ar ôl i chi orffen addysg bellach – gelwir hefyd yn ‘radd gyntaf’ neu’n ‘radd israddedig’. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau naill ai’n Faglor yn y Celfyddydau neu’n Faglor yn y Gwyddorau.

    Gair arbennig (‘Buzzword’) – ar gyfer ceisiadau Israddedig UCAS, bydd eich ysgol, coleg, neu ganolfan yn rhoi gair arbennig i chi fel y gallwch gysylltu eich cais iddyn nhw. Mae’n air y gallwch ei ychwanegu i’ch cais pan fyddwch yn cofrestru i wneud cais UCAS Israddedig (oni bai eich bod yn gwneud cais yn annibynnol).

    Canolfan (‘Centre’) – ysgol, coleg, neu sefydliad sy’n gallu helpu myfyrwyr i wneud cais i addysg uwch.

    Newid cynnig cwrs (‘Changed course offer’) – yn eich cais, efallai y cewch chi un o’r rhain os nad ydych chi wedi bodloni eich amodau, neu os yw’r brifysgol neu goleg wedi gwneud newidiadau i’r cyrsiau maent yn eu cynnig. Fe all olygu dyddiad dechrau neu fan mynediad gwahanol, neu gwrs gwahanol yn gyfan gwbl.

    Dewis (‘Choice’) – dewis yw cwrs rydych yn gwneud cais amdano ar eich cais – mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud nifer o ddewisiadau i wella eu cyfle i gael lle.

    Clirio (‘Clearing’) – mewn cais UCAS Israddedig, mae Clirio yn wasanaeth arall y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Os na chawsoch le ar gwrs – p’un ai na chawsoch gynigion, gwnaethoch wrthod eich cynigion, neu na chawsoch y graddau roedd arnoch eu hangen – mae Clirio yn caniatáu i chi wneud cais am gyrsiau sy’n dal i fod â lleoedd gwag.

    Coleg – darparwr addysg bellach ac uwch. Os byddwn yn defnyddio’r term ‘prifysgol’, mae hwn yn aml yn gyfeiriad generig sy’n cynnwys colegau hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn yn dweud ‘gwneud cais i brifysgol’, golygwn ‘gwneud cais i brifysgol neu goleg’, ond mewn ffordd fwy cryno.

    Cynnig amodol (‘Conditional offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs yn amodol ar amodau. Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni’r gofynion – sydd fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hyn yn fath cyffredin o gynnig i fyfyrwyr sy’n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach.

    Cadarnhad (‘Confirmation’) – yn eich cais, canlyniad cynnig amodol rydych wedi’i dderbyn. Os ydych yn bodloni’r amodau, bydd eich lle yn cael ei wneud yn ddiamod (sy’n golygu bod gennych le ar y cwrs) – os na, bydd y cynnig yn cael ei wrthod.

    Conservatoire – darparwr cyrsiau cerdd, dawns, sgrîn, a drama seiliedig ar berfformio.

    Cwrs – mae llawer o gyrsiau gwahanol ar draws gwahanol lefelau, pynciau, a lleoliadau – o raddau sylfaen i PhD.

    Darparwyr cyrsiau a hyfforddiant (‘Course and training providers’) – prifysgol, coleg, conservatoire, ysgol ‘School Direct’, neu ddarparwr arall sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch.

    Gohirio (‘Deferral’) – yn eich cais, dyma beth rydych yn ei wneud os hoffech gario cynnig drosodd i’w ddechrau yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

    Gofynion mynediad (‘Entry requirements’) – dyma mae’r darparwr cwrs yn argymell sy’n rhaid i chi ei wneud/gael i gael lle ar y cwrs – o gymwysterau a phynciau neu raddau penodol, i gyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Does dim gwarantu y cewch gynnig os ydych eisoes yn bodloni neu’n meddu ar y rhain.

    Extra – mewn cais UCAS Israddedig, mae Extra yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am leoedd amgen os nad oes gennych gynnig gan eich dewisiadau cyntaf.

    Y Glas (‘Fresher’) – term ‘slang’ am fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

    Dewis cadarn (‘Firm Choice’) – yn eich cais, cynnig rydych yn ei dderbyn yn ddewis cyntaf.

    Myfyriwr graddedig – myfyriwr sydd wedi cwblhau a graddio o gwrs israddedig – gallant nawr wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig os hoffent wneud hynny.

    Addysg uwch (AU) – lefel yr addysg y gallwn eich helpu i wneud cais amdani – o gyrsiau israddedig pan fyddwch wedi gorffen addysg bellach, i gyrsiau ôl-raddedig y gallwch symud ymlaen iddynt ar ôl graddio o radd israddedig.

    Dewis yswiriant (‘Insurance Choice’)  yn eich cais, cynnig rydych yn ei ddewis yn ail ddewis – rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau eich cynnig cadarn.

    Rhif adnabod personol (‘Personal ID’) – y rhif deg digid a gewch chi wrth gofrestru i ‘Apply’ – caiff ei ddangos yn y fformat 123-456-7890 ar bob e-bost a anfonwn atoch. Bydd gofyn i chi ddarparu hwn os byddwch yn cysylltu â’n Canolfan Profiad Cwsmeriaid.

    Datganiad personol – darn ysgrifenedig y bydd ymgeiswyr yn ei ysgrifennu i ddangos pam eu bod yn gwneud cais a pham y byddent yn fyfyriwr gwych i ddarparwr cwrs ei dderbyn.

    Graddau rhagfynegol (‘Predicted Grades’) – y graddau y mae athro, tiwtor neu ymgynghorydd arall sy’n gymwys i roi sylwadau ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y byddant yn eu cyflawni wrth gwblhau eu cymwysterau uwchradd.

    Canolwr (‘Referee’) – yn eich cais, rhywun sy’n darparu geirda ar eich cyfer.

    Cwrs rhyngosod (‘Sandwich Course’) – cwrs gyda blwyddyn ychwanegol lle byddwch yn gweithio yn y proffesiwn rydych yn astudio ar ei gyfer.

    Tariff – Tariff UCAS yw’r system ar gyfer dyrannu pwyntiau i’r gwahanol gymwysterau y gallwch eu defnyddio i gael i mewn i addysg uwch israddedig. Ni fydd pob cymhwyster yn cael ei gynnwys yn y Tariff. Dim ond er mwyn derbyn myfyrwyr y caiff ei ddefnyddio ac nid yw’n drosglwyddadwy i’r farchnad waith.

    Track – enw ein system tracio ar-lein lle gallwch weld sut mae eich cais yn symud ymlaen. Yma, gallwch ymateb i gynigion a gwneud diwygiadau, fel newid eich cyfeiriad e-bost ayb. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, caiff Apply ei gyfuno gyda Track.)

    UCAS – Y Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yn y DU. Mae hyn yn cynnwys ein prif wasanaeth ymgeisio UCAS Israddedig, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill a redwn, h.y. UCAS Conservatoires, UCAS Hyfforddiant Athrawon (‘UCAS Teacher Training’), ac UCAS Ôl-raddedig (‘UCAS Postgraduate’). Hefyd, rydym yn helpu myfyrwyr o 13 oed ymlaen gyda UCAS Cynnydd ‘(UCAS Progress’).

    Cynnig Diamod (‘Unconditional Offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs heb amodau – eich lle chi yw e os ydych chi ei eisiau.

    Israddedig – lefel gyntaf astudiaethau addysg uwch. Os byddwch yn graddio o radd israddedig, gallwch symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

    Prifysgol – darparwr addysg uwch.

    Aflwyddiannus (‘Unsuccessful’) – yn eich cais, naill ai nid oes cynnig wedi’i wneud i chi neu nid ydych wedi bodloni amodau cynnig amodol.

    Tynnu’n ôl (‘Withdrawal’) – yn eich cais, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i gynnig lle i chi ai beidio, gallwch chi neu’r brifysgol neu goleg dynnu dewis yn ôl.