Skip page header and navigation

Diwydiannau Creadigol Caerfyrddin

Diwydiannau Creadigol Caerfyrddin

Group of people performing in a circle

Gwahanol Fath o Ddosbarth

Mae Caerfyrddin yn ganolfan greadigrwydd gyfoethog a bywiog sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau o’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformiad, a phrosesau ffilm a chyfryngau digidol uwch-dechnoleg, i greu cymuned ddysgu sy’n ddeinamig, arloesol a chyffrous. Mae’r campws yn bair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid wedi’i leoli o fewn adeiladau trawiadol ac eiconig.

Beth gallaf astudio?

Caerfyrddin yw cartref ein graddau BA Acting a BA Dylunio Set a Chynhyrchu. Mae’r rhaglenni hyn yn gweithio law yn llaw, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd wedi cael profiadau uniongyrchol er mwyn gallu ffynnu yn y diwydiant.  Yn fyfyriwr ar gampws Caerfyrddin, bydd mynediad gennych i weithdai a mannau theatr ar y campws sy’n eich galluogi i gyfuno eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol.  

Mae’r BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol yn bodloni anghenion y diwydiant cyfryngau cyfoes trwy ffocysu’n bennaf ar dechnegau cynhyrchu newydd, dosbarthu ar-lein a chynulleidfaoedd, mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr. Yn ogystal, mae ein gradd BA Gwneud Ffilmiau Antur yn taro cydbwysedd unigryw rhwng gweithgareddau awyr agored a chreu cyfryngau mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llu o gyfleoedd.

Llun o Fae Abertawe o’r awyr

Profiad Campws sy’n wirioneddol Trochol

Rydym yn darparu amgylchedd sy’n meithrin y dalent fwyaf creadigol yng Nghymru, gan gynnig profiadau cyfoethog i unigolion talentog sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cynhyrchir egni a dawn greadigol drwy bylu ffiniau a rhwystrau traddodiadol disgyblaethau, a chaiff brwdfrydedd unigol ei annog a’i ddatblygu drwy ddysgu ac astudio mewn ffordd sy’n eich paratoi at y diwydiant. P’un a ydych yn actor, yn artist neu’n ddylunydd, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a chyfarwyddwyr.

Student painting part of a set

Gwahanol Fath o Ddosbarth

Rydym ni’n credu bod pobman yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Y cyfleoedd i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau yw lle caiff syniadau eu llunio, eu trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chyfleoedd.

Myfyrwyr yn peintio yn y gweithdy

Y Gweithdy Golygfeydd

Ein gweithdy yw un o’r ystafelloedd dosbarth mwyaf amgen sydd gennym. Nid yn unig y cynhelir sesiynau a addysgir yma ar wneud propiau, adeiladu setiau, adeiladu pypedau a chelf golygfeydd, ond yma hefyd mae calon y cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r gofod i ddatblygu eu crefft dros eu tair blynedd gyda ni a gallant ddefnyddio’r offer a deunyddiau arbenigol mor aml ag yr hoffent. Mae’n ofod y mae gan raddedigion atgofion cynnes amdano fel man cychwyn llawer o anturiaethau.

Myfyrwyr yn ffilmio tu allan i Ganolfan S4C Yr Egin

Mentro Allan

Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n gradd Gwneud Ffilmiau Antur. Maent yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac o dan gwahanol amodau, gan ddefnyddio tirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o weithgareddau awyr agored a gynhelir yn yr ardal.

Dau fyfyriwr yn edrych ar eu sgript

Cydweithio

Mae’r diwydiannau creadigol wedi’u hadeiladu ar gydberthnasau cydweithredol. Dyma’r dyfodol. Eich dyfodol, ein dyfodol. Rydym yn cydweithio gyda chydweithwyr creadigol bob dydd, ar lefel broffesiynol a chreadigol. Mae cydweithio’n rhoi llais i syniadau unigol, yn parchu barnau dylunio eang ac yn croesawu gwahaniaethau er mwyn meithrin cymuned hyderus a chreadigol.

Statistics