Skip page header and navigation

Hanes a Llinell Amser

Hanes a Llinell Amser

Brightly painted UWTSD coat-of-arms on the wall of the college in Lampeter.

Hanes

Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Phrifysgol Coleg Y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed. Ar y 1 Awst 2013, Daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS. Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol.

Campws Llambed

Exterior of Lampeter campus grounds and building

Campws Llambed

Sefydlwyd y campws yn 1822 fel Coleg Dewi Sant i ddarparu addysg ryddfrydol i aelodau’r glerigiaeth.

Dros y blynyddoedd, fe ddatblygodd ystod o bynciau a, fel Prifysgol Cymru Llambed, roedd gan y brifysgol enw da am ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn Saesneg, Archeoleg, Tsieinëeg, y Clasuron, Hanes, Diwinyddiaeth, yn ogystal â chyflwyno meysydd newydd fel Athroniaeth, Anthropoleg, Gwareiddiadau Hynafol ac Ysgrifennu Creadigol.

Nawr, yn PCYDDS, mae’r gymuned academaidd yn parhau i ffynnu ac mae’r portffolio a gynigir yn denu carfan ryngwladol o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Campws Caerfyrddin

Carmarthen Old Building

Campws Caerfyrddin

Adeilad gwreiddiol 1848 sydd yng nghanol campws Caerfyrddin. Ei enw gwreiddiol oedd Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy, ac fe’i sefydlwyd i hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion yr eglwys yng Nghymru a Lloegr. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw’n Goleg Y Drindod ac yna yn Goleg Prifysgol Y Drindod cyn uno â Phrifysgol Cymru Llambed i greu PCYDDS.

Y Fforwm from the outside

Campysau Abertawe

Yn ystod y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif roedd yna dri sefydliad addysgol ar wahân yn gwasanaethu ar ddinas Abertawe: Coleg Celf Abertawe (sefydlwyd yn 1853); Coleg Addysg Abertawe (sefydlwyd yn 1872) a Choleg Technegol Abertawe (sefydlwyd yn 1895).

Yn 1976, daeth y tri sefydliad ynghyd i ffurfio Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a ddaeth yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn y pendraw. Yn 2008, rhoddodd y Cyfrin Gyngor ganiatâd i’r sefydliad gael ei ail-enwi’n Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, unodd y sefydliad â champysau Llambed a Chaerfyrddin i greu’r PCYDDS newydd.

Llinell Amser

  • 1822 - Sefydlu Coleg Dewi Sant gan yr Esgob Burgess
  • 1827 - Derbyn y myfyrwyr cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi
  • 1828 - Derbyn y siarter gyntaf
  • 1960 - Cael y cyllid cyntaf gan y Pwyllgor Grantiau Prifysgol
  • 1971 - Ymuno â Phrifysgol Cymru
  • 1971 - Newid yr enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant
  • 1996 - Newid yr enw i Brifysgol Cymru Llambed
  • 2010 - Uno â Choleg Prifysgol Y Drindod a chreu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • 1847 - Gosod carreg sylfaen Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy
  • 1848 - Agor y Coleg
  • 1931 - Mabwysiadu’r enw newydd, sef Coleg Y Drindod
  • 1990 - Achredu gan Brifysgol Cymru ar gyfer graddau
  • 2008 - Cyflawni grymoedd dyfarnu graddau a addysgir
  • 2009 - Cyflawni statws Coleg Prifysgol
  • 2010 - Uno i mewn i Brifysgol Cymru Llambed a chreu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • 1853 - Sefydlu Coleg Celf Abertawe
  • 1872 - Sefydlu Coleg Addysg Abertawe
  • 1895 - Sefydlu Coleg Technegol Abertawe
  • 1976 - Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg
  • 1991 - Athrofa Addysg Uwch Abertawe
  • 2008 - Cyflawni statws Prifysgol a newid yr enw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe
  • 2013 - Uno i mewn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • 2010 - Ffurfio’r Brifysgol trwy Siarter Frenhinol atodol 1828
  • 2013 - Uno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe
  • 2013 - Coleg Sir Gâr yn uno â Grŵp PCYDDS
  • 2014 - Coleg Ceredigion yn uno â Grŵp PCYDDS