Skip page header and navigation

Cyfleusterau a Gweithdai

Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymchwilio i ystod eang o brosesau trwy gydol eu hamser gyda ni. Mae gan lawer o’n cyfleusterau fynediad agored, ac maent ar gael i bob myfyriwr, ni waeth ar ba gwrs rydych chi. 

Dysgwch ragor am ein cyfleusterau arbenigol isod:

Ein Campysau a'n Cymuned

Ein Campysau

Mae Coleg Celf Abertawe wedi’i leoli ar draws nifer o leoliadau yng nghanol y ddinas. Dim ond 5 munud ar droed o ganol y dref mae adeiladau Dinefwr ac Alex, ac mae’r adeilad IQ ac adeilad Y Fforwm wedi’u lleoli yn yr ardal forwrol fywiog. Mae traethau hyfryd Abertawe o fewn pellter cerdded byr.

Ein Cymuned Coleg Celf

Mae Coleg Celf Abertawe yn gymuned glos o fewn Prifysgol ehangach; yn ddigon mawr i gynnig y lle sydd ei angen arnoch ac yn ddigon bach i roi i chi deimlad o berthyn.  

Mae bod yn rhan o’n cymuned greadigol yn cynnig cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau ac i lunio cydweithwyr a chysylltiadau yn y diwydiant y byddwch yn ymuno ag ef.