Skip page header and navigation

Lle i Dyfu

Student working on a project in a studio

Er bod datblygu sgiliau cyflogadwyedd yn bwysig iawn i ni, rydym hefyd yn cydnabod bod addysg gelf a dylunio yn daith hunan-ddarganfod. Rydym yn credu’n angerddol mewn rhoi amser a lle i’n myfyrwyr archwilio a dod o hyd i’w cyfeiriad eu hunain ac mae’r hyn sy’n dod i’r amlwg yn anhygoel. Mae ein campysau cyfeillgar yn llefydd gwych i astudio, ac mae ein stiwdios yn ferw o brysurdeb. 

Rydym yn gwahodd ein myfyrwyr i ymgartrefu yma, ac yn eu hannog i amgylchynu eu hunain gyda’u gwaith ac ysbrydoliaeth. Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol. 

Lle I Wneud

Surface Pattern students working in a studio

Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymchwilio i ystod eang o brosesau trwy gydol eu hamser gyda ni. Mae gan lawer o’n cyfleusterau fynediad agored, ac maent ar gael i bob myfyriwr, ni waeth ar ba gwrs rydych chi. 

Rydym yn parchu a dathlu ein traddodiadau. Am y rheswm hwn rydym ni wedi cadw offer a phrosesau traddodiadol ym meysydd cerameg, gwneud printiau a ffotograffiaeth. Ond, rydym ni hefyd yn flaengar, ac mae ein hadeiladau’n llawn i’r entrychion o’r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae llawer o’n cyrsiau hefyd yn elwa o gyfleusterau arbenigol fel ein stiwdio clai Modurol. Mae’r rhain yn cynnig cyfle prin i fyfyrwyr ddysgu’r gwir grefft tu ôl i’w pwnc. 

Dinas Ar Lan Y Môr

Aerial shot of Swansea Bay

Dinas ar lan y môr yw Abertawe ac mae’n lle gwych i fyw a gweithio. Mae’n llawn posibiliadau a phobl o’r un anian. P’un a ydych yn cael eich ysbrydoli gan fwrlwm bywyd yn y ddinas, neu lonyddwch yr awyr agored hyfryd, mae’r cyfan ar gael yma. 

Mae ein dinas yn gartref i nifer o orielau sy’n cynnal arddangosfeydd mawr, ac yn cefnogi talentau newydd o’r ardal leol. Hefyd, mae ein campysau’n daith fer ar droed o amrywiaeth eang o fariau a mannau creadigol annibynnol fel Oriel, Stiwdios a Chlwb Elysium a Theatr Celfyddydau Volcano.

A mwy...

Ein Campysau

Mae Coleg Celf Abertawe wedi’i leoli ar draws nifer o leoliadau yng nghanol y ddinas. Dim ond 5 munud ar droed o ganol y dref mae adeiladau Dinefwr ac Alex, ac mae’r adeilad IQ ac adeilad Y Fforwm wedi’u lleoli yn yr ardal forwrol fywiog. Mae traethau hyfryd Abertawe o fewn pellter cerdded byr. 

Cyswllt Â Staff

Mae ein horiau cyswllt rhwng myfyrwyr a staff ymhlith yr uchaf yn y wlad, a thrwy ddarlithoedd ffurfiol, seminarau neu sgyrsiau un i un anffurfiol yn y stiwdios, rydym yn cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod chi.

Mae ein dosbarthiadau bach yn sicrhau bod staff yn hawdd eu cyrraedd ac ar gael i helpu, gyda’r nod o roi’r cydbwysedd iawn o her a chymorth i bob myfyriwr. Mae ein timau’n ymwneud ag ymchwil, naill ai drwy arddangos gwaith yn genedlaethol neu dramor, neu drwy gymryd rhan mewn prosiectau gyda’u cysylltiadau yn y diwydiant.

Ein Cymuned Coleg Celf 

Mae Coleg Celf Abertawe yn gymuned glos o fewn Prifysgol ehangach; yn ddigon mawr i gynnig y lle sydd ei angen arnoch ac yn ddigon bach i roi i chi deimlad o berthyn.  

Mae bod yn rhan o’n cymuned greadigol yn cynnig cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau ac i lunio cydweithwyr a chysylltiadau yn y diwydiant y byddwch yn ymuno ag ef.