Skip page header and navigation

Beth gewch chi gan Ddiwrnod Agored Caerdydd

Mae mynychu Diwrnod Agored yng Nghaerdydd yn ffordd wych o ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau. Diwrnod Agored Caerdydd yw’ch cyfle i archwilio, dod i wybod rhagor am ein prifddinas a’r pwnc o’ch dewis, a hyd yn oed godi nwyddau am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf.

Cadwch le ar Ddiwrnod Agored Caerdydd

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf

Dysgwch ragor am Ddiwrnod Agored Caerdydd

01
Dewch i gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn helpu i siapio eich dyfodol.
02
Dewch i Gaerdydd a chael blas ar ddiwylliant yr ardal.
03
Ystyriwch y llety sydd ar gael.
04
Darganfyddwch y mannau lle gallwch astudio a chymdeithasu.
05
Dychmygwch eich hun yn byw ac astudio yng Nghaerdydd.
06
Cewch atebion i unrhyw gwestiynau allai fod gennych a siarad gyda’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Myfyrwyr mewn dosbarth dawns

Archwiliwch Bynciau sydd ar gael yng Nghaerdydd

Mae amrywiaeth o raglenni ar gael ar Gampws Caerdydd.  Archwiliwch ein rhestr gyrsiau i weld beth sy’n tanio eich brwdfrydedd, ond dyma flas ar y meysydd pwnc rydym yn eu cynnig:

BA Dawns Fasnachol 
BA Theatr Gerddorol
BA Perfformio (cyfrwng Cymraeg)
TystAU Proffesiwn Plismona 
TystAU Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol
TystAU Sgiliau Cyflogadwyedd
TystAU Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle.  
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
MA Theatr - Perfformio (cyfrwng Cymraeg)
MA Theatr - Cyfarwyddo (cyfrwng Cymraeg)
MA Theatr (Theatr Gerddorol)
BMus Perfformio Lleisiol 
MA Perfformio (Repetiteur a Chyfeilio)

Teithio i Gaerdydd

Teithio …
  • Mae Tŷ Haywood o fewn taith gerdded i ganol y ddinas, yr orsaf fysys ganolog a gorsaf drenau Caerdydd. 

    Cynlluniwch eich Taith
  • Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood o nifer o lwybrau beicio Caerdydd sydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd

    Cynlluniwch eich Taith

  • Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.

    Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith fws. 

  • Mae gan Orsaf Drenau Caerdydd gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o ac i Gaerfyrddin, Abertawe, Gorsaf Picadilly Manceinion a Llundain. Gallwch gynllunio eich taith drên yn Traveline.cymru.

  • Mae Campws Caerdydd mewn lleoliad cyfleus ac â chysylltiadau da â phrif ffyrdd, yn cynnwys traffordd yr M4. 

    Mae nifer o opsiynau parcio yn ninas Caerdydd ond y maes parcio aml-lawr agosaf at Dŷ Haywood yw Plas Dumfries Caerdydd.  

    Cynlluniwch eich Taith
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.