Skip page header and navigation

Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu

Llyfrgell Llambed

Mae’r Brif Lyfrgell a Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen wedi’u lleoli yng nghwadrant de-orllewinol y campws. Mae’r fynedfa gyferbyn ag Adeilad Caergaint. Mae’r Ddesg Gwasanaeth TG a Chanolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy hefyd wedi’u lleoli yn yr adeilad.

Students studying in Lampeter library

Cyfleusterau Llyfrgell Llambed

Mae Llyfrgell Llambed yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Llyfrgell Llambed a ble y gellir dod o hyd iddynt isod. 

  • P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).

    Mae Stackmaps ar gyfer Llyfrgell Llambed isod  

    Ystafelloedd Astudio y Llawr Uchaf

    Ystafelloedd Astudio y Llawr Isaf

    • Mynedfa hygyrch yn nhu blaen adeilad y llyfrgell.
    • Mynediad mewn lifft i bob llawr.
    • Toiledau hygyrch ar gael ar y llawr mesanîn.
    • Ffynnon ddŵr ar gael.
    • Mae casgliadau llyfrau ar y llawr uchaf a’r llawr isaf
    • Mae pamffledi, cyfnodolion, llyfrau ychwanegol, ac archifau a chasgliadau arbennig hefyd ar y llawr isaf
    • Mae loceri wedi’u lleoli ar y llawr mesanîn, mae chwech ohonyn nhw ar gael i’w benthyg am dair wythnos, tra bod dau ohonyn nhw ar gael i’w benthyg am ddiwrnod
    • Mae desg y Llyfrgell, a’r peiriannau hunanwasanaeth a hunanddychwelyd wedi’u lleoli ar y llawr mesanîn
    • Mae peiriant gwerthu sy’n cael ei reoli gan staff y gwasanaethau arlwyo ar gael ar y llawr mesanîn
    • Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau y tu allan i brif fynedfa’r llyfrgell. 
    • Mae’r llawr mesanîn yn cynnwys lle ar gyfer byrddau arddangos ac arddangosfeydd
  • Mae teithiau o gwmpas ein llyfrgell yn Llambed ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.

    • Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
    • Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
    • Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
    • Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.