Skip page header and navigation

Mewnfudo a Fisâu

Mae gan PCYDDS wasanaeth arbenigol a chynhwysfawr sy’n rhoi cymorth gyda phob cam o’r broses o wneud cais am fisa ar gyfer astudio yn y DU. Bydd y math o fisa y byddwch ei angen yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys hyd a lefel y cwrs astudio dan sylw. 

Gwneud Cais am Fisa a Chanllawiau

Defnyddiwch wefan Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) i weld a ydych angen fisa neu ddim er mwyn astudio yn y DU gyda PCYDDS.

Bydd hyd, math a lleoliad eich astudiaethau yn dylanwadu ar ba fisa y byddwch ei angen.

  • Bydd Fisa Ymwelydd Safonol yn caniatáu i chi astudio cwrs byr sy’n para 6 mis neu lai.
  • Bydd Fisa astudio tymor byr yn caniatáu i chi ddod i’r DU i astudio cwrs dysgu Saesneg sydd yn hirach na 6 mis a hyd at 11 mis.

Fel arfer, mae Fisa myfyriwr ar gyfer cyrsiau hirach. Byddwch angen cael eich noddi gan PCYDDS a byddwch angen lle wedi’i gadarnhau ar gwrs. Mae’n bosibl y gallwch weithio ychydig gyda’r fisa hwn.

Cefndir y Polisi a Chanllaw

1. Cyflwynwyd y DES gan UKVI er mwyn caniatáu i’r rhai sydd â Fisa Tier 4 neu Fisa Myfyrwyr ac sy’n astudio doethuriaeth neu gymhwyster rhestredig tebyg (e.e. DBA) i aros yn y DU ar ôl gorffen eu hastudiaethau, a hynny er mwyn canfod gwaith mewn maes perthnasol. 

2. Mae manylion cynllun DES PCYDDS i’w gweld isod. Er mwyn cael Tystysgrif o gael eich Derbyn i Astudio ar gyfer Fisa Cynllun Estyniad Doethuriaeth (DES CAS), rhaid i fyfyriwr:

  • fod â fisa Haen 4 neu fisa myfyriwr sy’n caniatáu iddyn nhw astudio gradd benodol ar lefel doethuriaeth gyda PCYDDS yn y DU (e.e. PhD neu DBA)
  • beidio â bod yn disgwyl penderfyniad gan y Swyddfa Gartref ar gais am ganiatâd i aros (gan gynnwys caniatâd sicrwydd eithriadol) 
  • bod wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil lefel doethuriaeth
  • bod â’r gallu i gwblhau eu VIVA ac i dderbyn canlyniad y VIVA o fewn telerau eu fisa myfyriwr neu eu fisa Haen 4
  • gallu gwneud cais am ganiatâd i aros DES hyd at 60 diwrnod cyn dyddiad gorffen disgwyliedig cwrs a fydd yn arwain at ddyfarniad lefel doethuriaeth (fel y nodir ar y DES CAS a gyhoeddwyd)
  • bodloni holl ofynion eraill y cynllun DES.

3. Pan fo myfyriwr yn bodloni pob un o’r uchod, gall y Brifysgol ddewis cyhoeddi CAS DES. Os yw’r Brifysgol yn penderfynu cyhoeddi DES CAS, rhaid iddynt wneud hynny cyn i’r myfyriwr gwblhau eu doethuriaeth ond dim ond pan fyddan nhw’n hyderus y bydd y myfyriwr llwyddo i ennill y dyfarniad dan sylw.

4. Wrth gyhoeddi’r CAS ar gyfer fisa DES rhaid i’r Brifysgol nodi’r dyddiad cwblhau disgwyliedig. Wedyn, bydd yn rhaid i’r Brifysgol roi cadarnhad i UKVI fod y myfyriwr wedi ennill y dyfarniad mewn gwirionedd. Os na fydd y myfyriwr yn llwyddo i ennill y dyfarniad, rhaid i’r Brifysgol ddweud hynny wrth UKVI, a byddan nhw wedyn cwtogi unrhyw ganiatâd a roddwyd o dan y DES/gwrthod unrhyw gais a wnaed am ganiatâd i aros.

5. Pan fyddan nhw’n noddi myfyriwr dan gynllun DES, rhaid i’r Brifysgol sicrhau ei bod cadw cysylltiad trwy gydol y cyfnod nawdd (12 mis fel arfer), gan gysylltu o leiaf 2 waith yn ystod y cyfnod hwn. Nid fydd y cysylltiadau hyn yn academaidd eu natur, ond yn hytrach byddan nhw’n canolbwyntio ar weithgareddau economaidd y myfyriwr – h.y. a ydyn nhw’n gyflogedig/hunangyflogedig mewn swydd sgil uchel neu’n chwilio am waith, a bydd angen cadarnhau’r cyfeiriad preswyl sydd ar gofnod. Os na fydd y myfyriwr yn bresennol yn un o’r cyfarfodydd a drefnir, heb iddyn nhw gytuno ar hynny o flaen llaw, bydd rhaid i’r Brifysgol ddweud wrth UKVI a byddan nhw’n cwtogi caniatâd y myfyriwr a noddir. Rhaid i’r cyfarfodydd ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar Skype, a rhaid cadw cofnod priodol o’r cyfarfod yn ffeil y myfyriwr.  

Canllaw Gweithdrefnol

6. Er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch wrth ymdrin â myfyrwyr doethuriaeth, mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r weithdrefn ganlynol. Mae’r weithdrefn hon yn berthnasol i bob myfyriwr SQF lefel 8 a noddir ar draws pob campws:

  • Y myfyriwr sy’n gyfrifol am wneud cais DES CAS ar yr adeg briodol gan ddefnyddio’r ffurflen briodol. Oni wnân nhw hynny, efallai na fydd DES CAS yn cael ei roi.
  • Dylid anfon y cais am DES CAS i registry@uwtsd.ac.uk ar ôl cyflwyno’r traethawd ymchwil perthnasol ac o leiaf wythnos cyn unrhyw VIVA cysylltiedig. Gwrthodir ceisiadau a dderbynnir y tu hwnt i’r cyfnod yma.
  • Pan ofynnir am DES CAS, dylai’r myfyriwr hefyd gynnig tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni gofynion eraill y categori Fisa DES yn ogystal â gofynion y Brifysgol o ran rhoi DES CAS (gweler pwynt 2 uchod).
  • Ar ôl derbyn ffurflen gais DES CAS, bydd tîm y Gofrestrfa Ryngwladol yn cysylltu â’r Swyddfa Academaidd er mwyn cadarnhau bod traethawd ymchwil wedi’i gyflwyno a dyddiad y VIVA. Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, byddan nhw’n sicrhau bod digon o amser ar ganiatâd fisa myfyriwr neu fisa Haen 4 y myfyriwr i wneud hyn, ac yna byddan nhw’n cyhoeddi e-bost cydnabod. Os na fydd gan y myfyriwr ddigon o amser ar eu fisa Haen 4 neu fisa myfyriwr i gwblhau’r VIVA ac i gael canlyniad ffurfiol, ni ellir rhoi CAS DES. Pan fo hyn yn digwydd, efallai na fydd hi’n bosibl ychwaith i roi CAS fisa myfyriwr ar gyfer cyfnod astudio pellach.
  • Unwaith y bydd y VIVA wedi’i gwblhau, bydd y Swyddfa Academaidd yn hysbysu’r Gofrestrfa Ryngwladol o’r canlyniad a argymhellir. Bydd hwn yn un o dri chanlyniad:

a) Canlyniad A – Dyfarnu Cymhwyster Lefel Doethuriaeth

  • Os yw’r panel VIVA yn argymell rhoi dyfarniad lefel doethuriaeth (canlyniad A) yna bydd y Gofrestrfa Ryngwladol yn cyhoeddi DES CAS gyda dyddiad cwblhau cwrs y cyfarfod Pwyllgor Graddau Ymchwil (RDS) nesaf. Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r myfyriwr gyflwyno dogfennau wedi’u diweddaru sy’n dangos eu bod yn bodloni gofynion y llwybr DES. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod bod angen cyflwyno eu cais Caniatâd i Aros DES cyn dyddiad cyfarfod nesaf y RDC a chyn dyddiad darfod eu fisa llwybr myfyriwr neu eu fisa Haen 4.
  • Pan fydd y RDC yn cyfarfod ac yn cadarnhau’r dyfarniad, bydd y Swyddfa Academaidd yn hysbysu tîm y Gofrestrfa Ryngwladol a byddan nhw wedyn yn cofnodi hynny ar y System Rheoli Noddi (SMS).

 b) Canlyniad B – Dyfarnu cymhwyster lefel doethuriaeth ar yr amod bod y myfyriwr yn gwneud cywiriadau ac yn ailgyflwyno

  • Os yw’r panel VIVA yn argymell dyfarniad yn dilyn cywiriadau (canlyniad B), ni ellir rhoi DES CAS gan y bydd dyddiad cwblhau’r cwrs yn fwy na 60 diwrnod i ffwrdd. Ar y pwynt yma, byddai’n rhaid i’r myfyriwr gysylltu â thîm y Gofrestrfa Ryngwladol er mwyn trafod gwneud cais am estyniad Fisa llwybr Myfyriwr. Sylwch nad yw ceisiadau am estyniadau o’r fath yn cael eu gwneud yn awtomatig ac maen nhw’n cael eu gwneud yn ôl disgresiwn y Brifysgol. Wrth ystyried a ellid rhoi CAS llwybr myfyriwr pellach neu ddim, bydd angen cadarnhau y bydd goruchwyliaeth academaidd reolaidd yn digwydd yn ystod y cyfnod dan sylw. 
  • Gall myfyrwyr wneud cais DES pellach pan fyddan nhw’n cyflwyno eu cywiriadau. Os na fydd y myfyriwr yn gwneud cais pan gyflwynir y cywiriadau, ac yn hytrach yn gwneud cais hwyrach, efallai na fydd yn bosibl i roi DES CAS os yw’r dyfarniad eisoes wedi’i wneud.

c) Canlyniad C – ailgyflwyno traethawd ymchwil DBA o fewn 12 mis

  • Os yw’r panel VIVA yn argymell y dylai’r myfyriwr ailgyflwyno ei draethawd ymchwil o fewn 12 mis, ni fydd DES CAS yn cael ei gyhoeddi a bydd y cais yn cael ei wrthod.
  • Gellir trefnu nawdd pellach ar fisa Myfyrwyr, ond mae’n bosibl na fydd y Brifysgol yn cymeradwyo hynny. Cymeradwyir ceisiadau o’r fath yn ôl disgresiwn y Brifysgol, yn unol â’r rheolau mewnfudo a’u polisi estyniad CAS eu hunain.

d) Cymhwyster lefel doethuriaeth ddim yn cael ei ddyfarnu

  • Os yw’r panel VIVA yn argymell peidio â dyfarnu’r cymhwyster lefel doethuriaeth, ni fydd DES CAS yn cael ei gyhoeddi a bydd y cais yn cael ei wrthod.

7. Mae’r broses uchod i’w dilyn ar draws pob campws ac ar gyfer pob myfyriwr SQF lefel 8 Tier 4 a noddir sy’n gwneud cais am CAS. 

Cwestiynau Cyffredin ynghylch Mewnfudo a Fisâu

  • Sicrhewch eich bod wedi cwblhau ffurflen gais ac wedi ei chyflwyno i’r Brifysgol.

    Mae rhagor o wybodaeth a allai fod o gymorth i’w gael yn yr adran *Sut i Wneud Cais*.

    Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, cewch arweiniad manwl a chymorth gyda’ch cais am fisa.

  • Mae sawl gwahanol fath o fisa sy’n caniatáu mynediad i’r Deyrnas Unedig.

    Maen nhw’n cael eu cyhoeddi yn ôl diben eich ymweliad diwethaf, twristiaeth, astudiaeth neu waith, er enghraifft.

    Ym mron pob achos, er mwyn astudio yn PCYDDS, bydd angen i chi wneud cais newydd am Fisa Astudio o’ch mamwlad.

    Ond, os mai fisa Llwybr Myfyriwr yr ydych ei angen ar gyfer astudio (y math mwyaf cyffredin o fisa ar gyfer myfyrwyr), mae’n bosibl y gallech newid i’r fisa hwn os ydych chi yn y DU yn barod.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Gofrestrfa Ryngwladol.

  • Bydd angen talu ffi i wneud cais am fisa, ac mae’r prisiau ar gyfer y gwahanol fathau o fisa i’w gweld ar wefan UKVI.

    Bydd angen i chi dalu ‘Gordal Iechyd’ hefyd, a bydd pris hwn yn amrywio yn ôl hyd y fisa yr ydych chi ei eisiau.

    Bydd tîm mewnfudo’r Brifysgol yn eich cynghori ar yr union gostau y bydd angen i chi eu talu yn eich amgylchiadau chi, a byddan nhw’n eich tywys drwy’r broses dalu. Nid oes unrhyw ffi ychwanegol am y gwasanaeth cynghori a ddarperir gan y Brifysgol.

  • Rydym yn argymell i chi ddechrau drwy ddarllen yr wybodaeth a’r arweiniad sydd ar y tudalennau hyn ac yna i edrych ar y gwefannau hyn: Fisâu a Mewnfudo’r DU ac UKCISA

    Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os ydych angen rhagor o gyngor personol, gallwch e-bostio tîm y Gofrestrfa Ryngwladol.

    Mae cyngor a gwasanaethau mewnfudo yn cael eu rheoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) ac mae’n rhaid i ni fel sefydliad gydymffurfio â Chod Safonau’r Comisiynydd.

    Mae gan y tîm cynghori sy’n rhoi cymorth i chi ar ran y Brifysgol achrediad gan OISC ac, yn y cyd-destun hwn, dim ond gydag ymgeiswyr PCYDDS (a lle bo’n briodol, eu dibynyddion) y gallan nhw weithio. 

  • Na, mae’r ffi yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais ac i wneud penderfyniad, ni waeth beth fo’r penderfyniad hwnnw yn y pen draw. Fodd bynnag, bydd y ffi am y Gordal Iechyd Mewnfudo yn cael ei ad-dalu os yw’n berthnasol.