Skip page header and navigation

His Majesty’s Royal Patronage

Mae’r Brifysgol yn falch bod Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III yn parhau’n Noddwr Brenhinol.  

Yn dilyn esgyniad y Brenin i’r orsedd ym mis Medi 2022, cynhaliwyd adolygiad manwl o bob Nawdd Brenhinol a Llywyddiaeth elusennau.

Mae Nawdd Brenhinol Ei Fawrhydi yn anrhydedd ac yn fraint fawr ac mae’n gyfle i sicrhau bod ein cyflawniadau a’n cyfraniadau i’r gymdeithas yn cael eu cydnabod a’u hyrwyddo.

Dros y blynyddoedd, mae’r Brenin Charles wedi bod yn gefnogwr brwd o’r Brifysgol. 

Dechreuodd Nawdd Brenhinol Ei Fawrhydi i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Tachwedd 2011 ac yntau ar y pryd yn Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.  Mae wedi gwasanaethu fel Canghellor Prifysgol Cymru er mis Gorffennaf 1977, rôl a dderbyniodd oddi wrth ei dad, Dug Caeredin.

King Charles