Mae’r MRes yn Dehongli’r Beibl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil mewn astudiaethau beiblaidd o dan gyfarwyddyd arbenigwyr yn y maes Astudiaethau Beiblaidd. Trafodir cyd-destun a llenyddiaeth y Beibl o berspectif hanesyddol a chyfoes.
Mae gennym draddodiad hir a nodedig o ddarparu cyrsiau arbenigol mewn Astudiaethau Beiblaidd, tra bod ein staff yn cyhoeddi ymchwil sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.
Bu Diwinyddiaeth a Chrefydd yn rhan annatod o fywyd a’r addysgu academaidd ar gampws Llambed ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymptheg. Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd ymhlith y cynharaf o’i fath ym Mhrydain a’r cyntaf yng Nghymru. Os ydych yn cofrestru ar ein rhaglen MA, byddwch yn ymuno â chymuned fyd-eang o fyfyrwyr sydd yn elwa ar draddodiad hir a chyfoethog o addysgu o’r safon uchaf.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn dilyn modylau sydd yn gyfwerth â 60 o gredydau ac yna’n gwneud darn o waith ymchwil annibynnol o dan gyfarwyddyd un o’r tiwtoriaid academaidd. Hyd y traethawd yw 30,000 o eiriau.
Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd yn cynnig diwylliant ymchwil cyfoethog a bywiog, ac anogir ei myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd rhan yn ei seminarau ymchwil.
Cynigir y rhaglen hon yn rhan amser drwy ddysgu o bell. Darperir holl gynnwys y modylau drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiwr (Virtual Learning Environment, VLE) a bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth cyson gan eu tiwtoriaid, un ai un-wrth-un (ebost, Teams, ffôn) neu mewn grwpiau (drwy Teams) neu drwy fforwm trafod y VLE neu wikis.
Byddwn bob blwyddyn yn cynnal ysgol haf breswyl ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Caiff myfyrwyr y cyfle i gyfranogi mewn darlithoedd a seminarau ar amryw o bynciau ac i drafod gyda myfyrwyr ymchwil eraill.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto I gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ol-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.
-
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), adolygiadau, aseiniadau testunol, ac un traethawd ymchwil 30,000 o eiriau.
-
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.