Skip page header and navigation

Mae’r syniad o “ddysgu bod yn greadigol” sy’n deillio o addysg ddylunio yn gymharol newydd mewn addysg fusnes ac addysg entrepreneuraidd, felly beth allwn ni ei ddysgu? Ysgrifennwyd gan Kathryn Penaluna.

Arfbais PCYDDS.

Os ydyn ni eisiau camu y tu hwnt i’r hyn sy’n arferol mewn busnes, mae dull dysgu entrepreneuraidd, sy’n annog creadigrwydd a dychymyg, yn hanfodol. Fel arall bydd arloesi neu feddwl sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn beth prin. Gellir cymryd y ffynhonnell gyntaf ar gyfer arbenigedd creadigol o ddulliau addysgol a ddefnyddir yn y celfyddydau neu gerddoriaeth, y mae eu harbenigedd wedi hen sefydlu. Mae Meddylfryd Dylunio hefyd wedi dod yn fodel cyffredin mewn addysg entrepreneuraidd, ond beth os ydyn ni’n meddwl y tu hwnt i’r dehongliad gor-syml hwnnw ac yn mynd at wreiddiau disgyblaeth sydd wastad wedi creu gwerth i eraill drwy ganfod datrysiad creadigol?

Yn 2005 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fe wnaethon ni ailystyried ein dulliau drwy edrych ar addysgeg addysg ddylunio a’r hyn y gall ei gynnig o ran dysgu, addysgu ac asesu dysgu entrepreneuraidd.   Nid oedd hyn mor syml ag y byddech yn ei ddychmygu, yn bennaf oherwydd bod myfyrwyr a  graddedigion mewn celf, dylunio a’r cyfryngau yn anghyfforddus â’r term ‘entrepreneur’ (Boddington a Clews, 2007, 66). Eto i gyd, roedd eu harolwg yn dangos fod llawer o ddyheadau dysgu entrepreneuraidd eisoes wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Felly gallai ysgogwyr a galluogwyr megis diwylliant, strwythurau cymorth mewnol ac alinio gwasanaeth (Safonau Dimensiwn 3 yr ACEEU: Gyrwyr a Galluogwyr 1, 2 a 3), gyfrannu at yr hyn yr oeddem yn ceisio ei gyflawni drwy ddulliau dysgu entrepreneuraidd rhyngddisgyblaethol, sefyllfa lle mae bod yn ddehonglydd iaith a therminoleg yn dod yn rôl allweddol.

Gwersi ar asesu sy’n deillio o addysg ddylunio

“Roedd myfyrwyr dylunio nid yn unig yn cwestiynu popeth a ddywedwn wrthyn nhw; roedden nhw’n herio fy ffordd o feddwl am addysg fusnes.”

Addysgir myfyrwyr dylunio i herio normau a chwilio am atebion newydd ac arloesol. Nid profi syniad sydd wedi’i ddatblygu’n annigonol yn unig y maent. Maent yn datblygu llu o syniadau sy’n eu galluogi i fod yn hyblyg ac addasu wrth i sefyllfaoedd newid. Nid ‘beth’ roedden nhw’n ei feddwl oedd dan sylw yma, ond yn hytrach ‘sut’ roedden nhw’n meddwl, ac fe sylweddolais yn sydyn mai’r gallu yma oedd yr hyn y bûm yn chwilio amdano ers pan oeddwn i’n rheolwr banc, ond eto wedi ei gael yn anodd ei fynegi.

Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae addysg ddylunio wedi parhau i fy ysbrydoli ac mae’n  dylanwadu ar y ffordd rwy’n gweithio. Yn anad dim,  mae’n ymddangos bod y strategaethau dysgu, addysgu ac asesu yn cyd-fynd â nodau addysg entrepreneuraidd, felly dyma ychydig o bwyntiau i’w hystyried:

•  Mae asesu dysgwyr mewn addysg ddylunio yn ddilys ac wedi’i alinio’n adeiladol (Biggs,  2003), gyda berfau megis ‘esbonio, dadansoddi a chymhwyso’ yn ymddangos mewn deilliannau dysgu cynharach, ac mae’r rhain yn arwain at adfyfyrio a damcaniaethu wrth i brosiectau esblygu.
• Yr hyn sy’n hanfodol wrth werthuso dysgwyr yw natur y broblem o ran yr angen i fynd ati’n weithredol i ganfod ateb, ac mae hynny yn ei dro yn dibynnu ar allu’r addysgwr i osod aseiniadau credadwy sydd yn amlwg yn berthnasol (Gweler: Tyler, 1949 am drafodaeth gysylltiedig).
• Nid oes arholiadau mewn addysg ddylunio, a defnyddir amgylcheddau stiwdio i ddatblygu dysgu cyd-destunol dilys.

“Do, fe glywsoch chi hynny’n iawn, does dim arholiadau mewn addysg ddylunio. Pan holais i gyntaf, cefais gwestiwn yn ôl, ‘pa fath o gof tymor byr a gallu i gofio o fewn amser penodol sydd angen i chi ei brofi, a sut fydd hynny’n helpu’r myfyrwyr?’”

Felly sut mae dylunwyr yn asesu dysgu, a sut gallai eu dealltwriaeth ddiwylliannol lywio datblygiad dysgu entrepreneuraidd? Yn gyntaf, mae angen i ni ddeall bod dysgu’n digwydd drwy brosiectau sy’n datblygu galluoedd ynghyd â gwybodaeth fesul tipyn (Gweler: Bandura, 2019). I ddechrau, realiti efelychiadol yw’r prosiectau hyn, fel bod hyder ac arbenigedd yn cael eu meithrin cyn rhyngweithio â chleientiaid a rhanddeiliaid allanol.

Mae’r asesiad yn seiliedig ar broses y dysgwyr o feddwl, nid o reidrwydd y canlyniad terfynol. Bydd ‘methiant gogoneddus’ sydd wedi’i egluro’n dda yn derbyn gradd well na datrysiad graenus ond na roddwyd ystyriaeth ddigonol iddo. Gwelir tystiolaeth o gynnydd drwy adfyfyrio mwyfwy cymhleth, sy’n cyd-fynd â phortffolios gwaith. Mae’n rhaid i fyfyrwyr esbonio eu cysyniadau drwy fapiau a brasluniau sy’n dangos pa mor amrywiol ac anarferol yw’r cysylltiadau meddyliol a wnaethant. Y lleiaf o gysylltiadau sydd, yr isaf yw’r radd, a’r mwyaf cymaradwy yw’r datrysiadau, y mwyaf o feirniadaeth maent yn ei derbyn.

Mae dod yn hyblyg ac addasadwy yn gysyniadau craidd mewn addysg ddylunio sydd, yn draddodiadol, yn symud o ‘scamps’ sef nifer o syniadau cychwynnol a grëwyd yn gyflym iawn, i gynlluniau bras neu ‘roughs’, lle mae mwy o debygolrwydd o lwyddiant (yn dilyn ymchwil) yn cyfyngu’r dewis i gynigion mwy credadwy. Mae’r dewis hwn yn sail i enghreifftiau gweledol neu ‘visuals’ o’r hyn y byddai entrepreneuriaid yn eu galw efallai’n gynnyrch hyfyw lleiafsymiol. Mae strategaethau asesu’n adlewyrchu’r angen am lawer o syniadau cyn ystyriaeth feirniadol, ac mae adolygiadau ffurfiannol gan gymheiriaid a elwir yn ‘crits’’ yn cynnwys sesiynau ar y meddylfryd y tu ôl i’r sefyllfa gyfredol. Mae hyn yn cynnwys ffactorau newid, oherwydd anaml y mae’r amgylchedd dysgu yn statig, mae’n ymwneud mwy â’r byd go iawn, a’r canlyniad yw amgylchedd dysgu addasol. Mae hyn yn adlewyrchu meddyliau Edströ (2008, 95) a ddatganodd, wrth drafod rhagoriaeth mewn arfer addysgol, y dylid ystyried gwerthuso cyrsiau fel elfen o alinio adeiladol, ynghyd â’r deilliannau dysgu, y gweithgareddau dysgu a’r asesu arfaethedig. Fel y mae Safonau 7 a 10 yr ACEEU yn nodi, mae’r rhain yn ffactorau pwysig i’w hystyried.

Yn nhermau effaith o ran dylunio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, mae ymchwil Cyngor Dylunio’r DU yn eithaf argyhoeddiadol, gan eu bod yn dweud bod y symlrwydd sy’n fodd o esbonio dyluniad yn golygu bod angen meddwl cymhleth (Gweler: Cyngor Dylunio, 2021).

Beth nesaf?

Felly y tro nesaf rydych chi’n defnyddio’r gair ‘dylunio’, oedwch am eiliad a myfyrio ynghylch pam y defnyddioch chi’r gair penodol hwnnw, a gofyn a yw oherwydd eich bod yn dymuno dychmygu dyfodol amgen? Yn y Drindod Dewi Sant, rydym ni wedi dylunio ecosystem entrepreneuraidd yn seiliedig ar well dealltwriaeth o’r modd mae pobl greadigol yn meddwl a sut mae datrys problemau’n greadigol yn gweithio o fewn dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Yn ogystal, mae addysg ddylunio wedi dod yn agwedd annatod o ddysgu entrepreneuraidd o ansawdd uchel - gan ei fod yn addysgu hyblygrwydd a galluoedd sy’n gysylltiedig â datblygu datrysiad dychmygus ar gyfer effaith busnes, ac effaith amgylcheddol a chymdeithasol.

Wrth i chi ystyried eich defnydd o’r gair dylunio, beth am ddysgu mwy am y modd mae addysgwyr dylunio’n addysgu pobl greadigol, a gofyn sut maen nhw’n datblygu graddedigion sy’n hyderus wrth dderbyn y dasg o fynd ati’n barhaus i gynnig syniadau sy’n datrys problemau pobol eraill?

Llyfryddiaeth

Biggs, J. (2003), Teaching for Quality Learning at University: What the Student Does, 2nd ed, London: Open University Press.

Boddington, M and Clews, D (2007) Creating Entrepreneurship: Higher Education and the Creative Industries. Bournemouth: Higher Education Academy and National Endowment for Science, Technology, and the Arts.

Bandera, C. Somers, M. Passerini, K Naatus MK and Pon, K (2019)

Disruptions as opportunities for new thinking: applying the studio model to business education. Knowledge Management Research & Practice. Volume 18, ISS. 1, 2020 

Design Council (2021) Making life better by design: Communicating the value of Design

Edström, K. (2008) Doing course evaluation as if learning matters most. Higher Education Research & Development, 27(2), 95 – 106.

Tyler, R.W. (1949) Basic principles of curriculum and instruction. Chicago: University of Chicago Press.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau