Skip page header and navigation

Mae grŵp o fyfyrwyr Lefel 5 Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, Digwyddiadau a Rheolaeth Gwyliau Rhyngwladol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cymryd rhan yn 10fed taith y Brifysgol i’r Swistir.

Grŵp o fyfyrwyr yn gwenu mewn dillad gaeaf ac yn codi llaw yn hapus yn Alpau’r Swistir.

Mae’r daith i ddinasoedd, llynnoedd, mynyddoedd, a chyrchfannau sgïo ar draws y Swistir yn gysylltiedig â’u hastudiaethau academaidd ac yn rhoi cyfle i gynnal ymchwil sy’n gysylltiedig â’u haseiniadau yn ogystal â’u galluogi i roi’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu ar waith.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, Digwyddiadau a Rheolaeth Gwyliau Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r daith yn dod â’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu’n fyw drwy ganolbwyntio yn uniongyrchol ar Weithrediadau Teithio Rhyngwladol a System Teithio Integredig y Swistir a Thwristiaeth a Digwyddiadau Cynaliadwy.

“Mae bob amser yn daith boblogaidd iawn gyda’r myfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer eu hastudiaethau blwyddyn olaf gan ganolbwyntio ar Gyrchfannau Byd-eang, Rheoli Gwyliau, Rheoli Atyniadau, Gwyliau a Digwyddiadau Chwaraeon. “

Roedd cyrchfannau’n cynnwys Pencadlys y Mudiad Olympaidd Rhyngwladol yn Lausanne i ddysgu am etifeddiaethau Olympaidd a phentref Lauterbrunnen lle arhosodd myfyrwyr mewn chalet traddodiadol ar ddull y Swistir lle mae myfyrwyr blaenorol wedi gwneud lleoliadau gyda Contiki Holidays.

Bu’r myfyrwyr hefyd yn ymweld â Phrofiad Spy World James Bond 007 yn Piz Gloria i ddysgu am ddatblygiad a brandio’r gyrchfan drwy dwristiaeth ffilm. Roedd hyn yn cynnwys profi’r atyniadau rhyngweithiol a’r bwyty cylchdro yn ogystal â dysgu am y cynlluniau datblygu a’r prosiect trafnidiaeth newydd a gynlluniwyd i ragor o ymwelwyr.

Roedd y daith hefyd yn cynnwys myfyrwyr yn gwneud eu gwibdeithiau eu hunain yr oeddent wedi ymchwilio iddynt ac wedi’u cynllunio er mwyn cynnal eu hymchwil arsylwadol a thrwy brofiad ar gyfer eu gwaith prosiect. Mae hyn yn gysylltiedig â’u haseiniadau ac mae’n cynnwys gwerthuso twristiaeth a digwyddiadau arbenigol yn y Swistir.

Yn ystod y daith, cynhyrchodd y myfyrwyr luniau fideo o’r alpau ar gyfer eu cynhadledd ITT Future You yn ddiweddar, yn ogystal â chynnwys ar gyfer eu haseiniadau eu hunain, prosiectau VR ac ystafell ymdrochol newydd y Brifysgol yn Abertawe.

Fis nesaf bydd grŵp o fyfyrwyr blwyddyn olaf yn teithio i Colorado ar gyfer taith maes pythefnos a ariennir gan Daith, lle byddant yn cyflawni gwaith prosiect, yn ymweld â sefydliadau twristiaeth a digwyddiadau ar gyfer ymweliadau â’r diwydiant tu ôl i’r llenni a rhwydweithio â chyn-fyfyrwyr ac arweinwyr diwydiant.

Mae’r myfyrwyr hefyd wedi ymweld â Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn westeion Compass a myfyrwyr ail flwyddyn yn cyflwyno eu prosiectau Digwyddiadau Byw gan gynnwys gig Cian Ducrott ym Mhafiliwn Patti, Noson Gemau Cymunedol, Digwyddiad Byw yn Backpackers, a Dawns Fawreddog Elusennol yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Maen nhw hefyd yn helpu i sefydlu Cynhadledd Canol y Ddinas a chofrestru ar gyfer 4theRegion yn yr Arena ar 29 Mawrth.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau