Skip page header and navigation

Mae cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a busnesau o Gymru’n mynychu Cyngres y Byd IOT Solutions (IOTSWC) ym Marcelona, Sbaen o 31 Ionawr i 2 Chwefror, 2023.

Cynrychiolwyr y Drindod Dewi Sant y tu allan i’r ganolfan gynadledda.

Estynnwyd y gwahoddiad i’r Drindod Dewi Sant gan Lywodraeth Cymru oherwydd llwyddiant prosiect y Cyflymydd Digidol SMART, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd â’r nod o gefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru ar eu taith ddigideiddio.

Yr IOTSWC yw’r prif ddigwyddiad ar dueddiadau mewn trawsnewid digidol a thechnolegau tarfol. Nod y gyngres yw creu map ffordd i lywio drwy’r cyfleoedd a’r risgiau, ac i helpu sefydliadau ganolbwyntio ar y technolegau sy’n cael yr effaith busnes fwyaf.  

Pwrpas y gyngres yw creu deialog rhwng arweinwyr sy’n ysgogi mentrau arloesi digidol grymus ac sy’n trawsnewid diwydiannau.

Bydd cynrychiolwyr o brosiect Cyflymydd Digidol SMART y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys Richard Morgan, Lisa Lucas, Simon Thomas, a Raoul Chappell, yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o weithgynhyrchwyr o Gymru, Probe RTS, Morgan Advanced Materials, a Safran Seats, y mae pob un ohonynt yn elwa’n llwyddiannus o’r prosiect.

Arweinir y ddirprwyaeth gan Gwion Williams (Rheolwr Gweithrediadau) a Peter Williams (Rheolwr Perthnasoedd Technegol) o Lywodraeth Cymru. Y nod yw arddangos y gorau o brosiectau arloesol Cymru sy’n newid y diwydiant a chwilio am berthnasoedd a thechnolegau newydd a all ddarparu atebion i heriau yng Nghymru a ledled y byd. Mae gan y ddirprwyaeth ddiddordeb arbennig mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg a chyfleoedd trosglwyddo gwybodaeth.

Mae amserlen y ddirprwyaeth yn cynnwys ymweliadau â chanolfannau rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Argraffu 3D, Diwydiant Digidol, Roboteg, yn ogystal â sawl cyfle rhwydweithio.

Bydd Gary Clifford, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnacheiddio, a Jo Walker, Rheolwr Prosiect o’r tîm INSPIRE, yn ymuno â’r gyngres yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos i chwilio am berthnasoedd busnes newydd a fydd yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant i ddatblygu eu presenoldeb busnes rhyngwladol sydd eisoes yn gryf.

Meddai Gary Clifford, “Fel Pennaeth INSPIRE, tîm sy’n gyfrifol am Ymchwil, Masnacheiddio, Menter, ac Ymgysylltu Dinesig yn y Drindod Dewi Sant, mae’r digwyddiad byd-eang hwn yn cyflwyno cyfle go arbennig i’r brifysgol rwydweithio a chysylltu ag unigolion a sefydliadau o’r un fryd. Rwy’n awyddus i rannu ein harbenigedd a dysgu gan eraill wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein partneriaethau er mwyn dod â phrosiectau cydweithredol ac sy’n cael effaith yn fyw. Mae’r digwyddiad hwn yn cynrychioli eiliad ddiffiniol o ran lle Cymru yn y diwydiant technoleg byd-eang, ac rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan ohono.”

Meddai Barry Liles, Pro Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, “Rydym yn andros o falch o gael ein gwahodd i fod yn rhan o ddirprwyaeth sy’n mynychu Cyngres y Byd IOT Solutions ym Marcelona. Mae’r gwahoddiad hwn yn brawf o waith caled ac ymroddiad ein staff a’r partneriaethau cryf rydyn ni wedi’u creu gyda Llywodraeth Cymru a busnesau yng Nghymru. Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn hollol ymroddedig i rôl Cymru fel arweinydd mewn digideiddio a mabwysiadu technoleg a gwelwn y Gyngres hon fel cyfle aruthrol i arddangos ein prosiectau sydd ar flaen y gad a meithrin perthnasoedd newydd a fydd yn ysgogi arloesi a thwf.”

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, James Cale o’r Drindod Dewi Sant hefyd yn mynychu’r Gyngres i edrych ar sut i ddefnyddio technolegau digidol i ysgogi creadigrwydd, cynhyrchiant, ac effeithlonrwydd, wrth symud y Brifysgol tuag at fodel busnes â ffocws digidol. Bydd Geraint Flowers, Pennaeth Prosiectau Cyfalaf y Drindod Dewi Sant hefyd wrth law i werthuso sut y bydd y Brifysgol yn ymgorffori technolegau’r dyfodol i’w seilwaith. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau