Skip page header and navigation

Graddiodd Jake Sawyers o gwrs BA Acting Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn fyfyriwr â nam ar ei olwg, roedd Jake yn betrusgar ynghylch ymuno â byd addysg uwch, ac nid oedd yn sicr p’un a oedd eisiau mynd i’r brifysgol o gwbl. Roedd yn gwybod ei fod eisiau actio a gweithio yn y diwydiant creadigol.

Yn gwisgo crys secwinog ac yn dal microffon, mae Jake Sawyers yn gwenu at y camera.

Pan ymwelodd Jake â champws Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, cafodd ei siomi o’r ochr orau gan ansawdd y cwrs, a naws gymunedol y campws.

Meddai Jake: “Roedd y cwrs yn edrych yn ymarferol iawn, gyda llawer o oriau cyswllt, rhywbeth a oedd yn hanfodol i mi. Roedd gallu byw ar y campws hefyd yn ffactor positif iawn, gallwn fyw’n annibynnol gyda’r diogelwch ychwanegol y byddai hynny’n agos i’m dosbarthiadau. Ar ôl i mi a ffrindiau yn y coleg gael cynigion, roeddwn i’n gwybod mai’r Drindod Dewi Sant fyddai’r lle iawn i mi.”

Gwnaeth Jake gwrdd â’r darlithwyr i drafod ei ofynion o ran mynediad cyn iddo ddechrau a dywedodd: “Roeddynt yn barod iawn i wrando ac yn barod i dderbyn fy anghenion unigol. Gwnes i gyflawni pethau yn Y Drindod Dewi Sant na wnes i ddisgwyl eu gwneud, er enghraifft perfformio gornest gleddyfau wedi’i choreograffio wrth berfformio Shakespeare. Rwyf bob amser wedi gallu eirioli dros fy anghenion a gwnaeth y staff addysgu cefnogol fy ngalluogi i lwyddo.”

Dywedodd Jake bod y darlithwyr BA Acting wedi helpu’r myfyrwyr i adeiladu ar eu set sgiliau actio a llwyddo.

“Teimlais fy mod yn agos i’r staff addysgu a’u bod nhw’n gweld y myfyrwyr fel pobl ac nid dim ond rhifau ar daenlen. Roedd gennym oriau cyswllt bum diwrnod yr wythnos ac roedd ein cwrs astudio’n amrywiol tu hwnt, o weithio gyda sgript i ganu a dawnsio poblogaidd. Roedd y cwrs yn eich meithrin ac heb os, fe wellodd fy hyder wrth berfformio yn ystod tair blynedd y cwrs.”

Yn ogystal â’r sgiliau perfformio ymarferol roedd Jake wedi’u dysgu ar y cwrs, dysgodd hefyd am foeseg waith bod yn berfformiwr sy’n gweithio ar ei liwt ei hun. Graddiodd Jake o’r Drindod Dewi Sant gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac mae wedi bod yn gweithio yn y diwydiant creadigol ers hynny. Yn ogystal ag actio, mae wedi bod yn gweithio’n rheolaidd fel arweinydd gweithdai a chrëwr cynnwys ar-lein i BBC Cymru.

Hefyd, mae ganddo enw da fel perfformiwr drag – ‘Venetia Blind’, lle mae’n diddanu ac yn addysgu’r torfeydd ynghylch y nam ar ei olwg, a sut beth yw byw gyda’r cyflwr. Gobaith Jake yw y gall ddymchwel rhwystrau a stigmâu ynghylch gallu pobl anabl a dangos bod unrhyw beth yn bosibl wrth berfformio.

Yn ddiweddar, gwnaeth Jake ysgrifennu a serennu mewn rhaglen gomedi beilot ar gyfer BBC Cymru o’r enw The i-Word, comedi wedi’i sgriptio yn dilyn dau unigolyn sydd eisiau bod yn ddylanwadwyr, ac yn ymdrechu i fod yn hoff gwpl rhyng-abl y byd ar-lein, sydd ar gael nawr i’w gwylio ar BBC iPlayer.

Mae’n edrych ymlaen at ei brosiect cyffrous nesaf a fydd yn cael ei gynnal yn Theatr Clwyd y gwanwyn hwn.

Mae Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Rhaglen y BA Acting, yn falch o gyraeddiadau Jake. Meddai:

“Bues yn ffodus i weithio gyda Jake ddwywaith ar ei raglen BA Acting fel cyfarwyddwr llawrydd. Ar y ddau achlysur hwnnw, nid dim ond ei dalent a’i frwdfrydedd a wnaeth argraff arbennig arnaf, ond hefyd ei ymagwedd at eirioli dros ei anghenion o ran y nam ar ei olwg. Roedd yn bersonoliaeth eithriadol o bositif yn yr ystafell ymarfer ac fe arweiniodd ei garfan trwy nifer o gyfnodau o ymarfer a pherfformio.

“Rydw i wedi bod mor falch i weld ei gynnydd trwy’r diwydiant. Mae’n cydio ym mhob cyfle gyda’i frwdfrydedd nodweddiadol. Mae’n berson eithaf diymhongar, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid yn unig y mae ei gyraeddiadau’n adlewyrchu ei dalent a’i waith caled, ond mae e hefyd yn lliwio’r ffordd ar gyfer actorion ifanc eraill sydd ag anghenion hygyrchedd.  Nid yn unig y mae’n rhoi’r hyder i actorion ifanc ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol ond mae’n helpu hefyd i addysgu cwmnïau ac ymarferwyr ynghylch eu prosesau cynwysoldeb. Alla’i ddim aros i ddilyn a dathlu ei siwrne!”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau