Rhaglen breswyl yn Llambed yn llwyddiant ysgubol
Mae myfyrwyr sy’n astudio’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant wedi galw’r rhaglen breswyl a gynhaliwyd ar gampws y Brifysgol yn Llambed yn llwyddiant ysgubol.
Mae’r rhaglen ei hun yn cael ei chyflwyno ar-lein ac mae elfen breswyl y rhaglen, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gwrdd â’i gilydd, rhannu syniadau ynghylch eu hymchwil a ffurfio cymuned o gefnogaeth.
Meddai Laura James, Rheolwr Rhaglen:
“Bob blwyddyn, rydym ni’n cynnal rhaglen breswyl ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar Ran 1 y rhaglen ar ein campws yn Llambed. Yn ôl yr adborth gan ein myfyrwyr maen nhw’n croesawu’r cyfle hwn ac yn gadael y rhaglen breswyl ag ymdeimlad o berthyn a bod yn rhan o gymuned ymchwil bwysig.
“Un o nodweddion y ddoethuriaeth broffesiynol yw ei bod yn cael ei gyrru gan ymarferwyr am ei bod wedi’i seilio ar broblemau cymhleth yn y gweithle ac mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth a dehongliad damcaniaethol – yn aml o safbwyntiau gwahanol a gwrthgyferbyniol –yn cynnwys y rhesymau pam mae’r problemau wedi codi yn y gweithle a beth fyddai’r ffordd orau o fynd i’r afael â nhw er mwyn dod o hyd i atebion addas a chyd-destunol.”
Meddai Hannah Coghill, myfyriwr cyfredol ar y rhaglen:
“Mae’n wych cael y cyfle i gwrdd ag unigolion o wahanol arbenigeddau a gwahanol ffrydiau. Rwy’n meddwl bod hynny’n ased enfawr i’r cwrs yn gyffredinol. Mae gennym ni amrywiaeth o arbenigedd gwahanol ac rydym ni’n gallu herio ffordd ein gilydd o feddwl a phalu ychydig yn ddyfnach, sy’n wych!”
Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn cyfuno arfer proffesiynol ac ymchwil. Mae Rhan 1 yn mynd â myfyrwyr drwy raglen strwythuredig o fodylau sy’n eu paratoi am eu traethawd ymchwil yn Rhan 2 y rhaglen. Mae’r holl theori yn cael ei hintegreiddio’n agos â datblygiad gyrfa proffesiynol y myfyrwyr sy’n golygu eu bod yn dod â thoreth o wybodaeth a phrofiad o amryw o feysydd.
Ychwanega Hannah:
“Mae fy nhaith DProf wedi bod mor gyffrous yn y bôn am ei bod yn gallu cysylltu â f’arfer proffesiynol, beth rwy’n ei wneud o ddydd i ddydd. Mae wedi cael effaith go iawn ar fy nhaith broffesiynol. Felly, rwy’n gallu mynd yn ôl â’r hyn a ddysgais i drwy’r cwrs ei hun a thyfu fel ymarferydd.”
Meddai Brad Roberts o Utah yn UDA:
“Rydw i yma i astudio mwy am brofiad dylunio. Mae f’arfer proffesiynol mewn entrepreneuriaeth manwerthu ac un o’r pethau rydw i’n ei garu am y rhaglen hon yw ei bod yn rhoi’r annibyniaeth i mi astudio’n fanwl bethau rydw i’n frwdfrydig yn eu cylch; pethau sy’n ystyrlon i ddiwylliant a chymdeithas.
“Mae cyfeillgarwch uniongyrchol, mae perthynas â’r darlithwyr yn ogystal â’r cyd-fyfyrwyr yma. Mae’r DProf yn wir yn cyfuno academyddion a phroffesiynoldeb mewn ffordd newydd a chyffrous, sydd yn fy marn i yn mynd i fod yn llawn ystyr ar gyfer fy ngyrfa. Rydw i’n gallu gweld ei fod yn newid bywydau i bawb yma.”
Daw’r myfyrwyr o ystod eang o leoliadau proffesiynol ac mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr osod materion y gweithle yn eu cyd-destun yn ystod Rhan 1 y rhaglen cyn cynnal ymchwil manwl i bwnc sy’n gysylltiedig â’u harfer proffesiynol yn Rhan 2 y rhaglen ar gyfer dyfarnu doethuriaeth.
Ychwanega Laura James:
“Mae hon yn rhaglen ardderchog i’r rheini sy’n dymuno astudio am ddoethuriaeth sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’u harfer yn y gweithle. Nid yn unig y mae’n darparu cymhwyster y mae galw mawr amdano ar gyfer y myfyriwr, ond mae hefyd yn helpu unigolion i wella eu harferion eu hun neu eu cynhyrchiant.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335