Skip page header and navigation

Gan weithio mewn partneriaeth â’r tîm Gwell Yfory yng Nghanolfan John Burns, Cydweli, mae’r tîm Ehangu Mynediad yn y Drindod Dewi Sant yn cynnig prosiect sy’n anelu at gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles trwy annog teuluoedd i goginio o’r newydd.

Plant yn sefyll yn gwenu o flaen eu rhieni mewn cegin.

Mae’r rhaglen Cnoi Cil yn cael ei rhedeg o gegin bwrpasol yng Nghanolfan John Burns yng Nghydweli sydd â’r nod o godi hyder a sgiliau yn y gegin, a thu hwnt.

Mae tîm Ehangu Mynediad wedi gweld cyfle i gydweithio â staff Gwell Yfory yn Sefydliad John Burns i gynnig cyfle i deuluoedd goginio gyda’i gilydd, rhoi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl newydd. O baratoi prydau teulu ar gyllideb i goginio dewisiadau iachach a rhatach yn lle ein ffefrynnau o fwyd parod fel pitsas, byrgyrs a chebabs, y nod yw annog plant a’u rhieni i ymarfer a dysgu sgiliau hanfodol yn ymwneud â pharatoi bwyd a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus pan mae’n dod i goginio a bwyta.

Dywedodd Kate Jenkins, Swyddog Prosiect yn Sefydliad John Burns:

“Mae’r rhaglen ‘Coginio Gyda’n Gilydd’ wedi bod yn brosiect newydd a chyffrous i weithio mewn partneriaeth â thîm Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant.

Nod y rhaglen yw helpu plant a’u rhieni i ddatblygu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i dyfu’n gogyddion hyderus a datblygu sgiliau cegin a allai helpu i arbed arian i deuluoedd trwy goginio prydau iach o’r dechrau.

Gobeithiwn y bydd y teuluoedd sy’n mynychu’r cwrs yn dysgu sgiliau coginio gydag ymarfer ymarferol a’r gobaith yw y bydd coginio yn dod yn llai brawychus ac yn fwy pleserus pan fyddant yn dysgu sut i baratoi prydau iachach, fforddiadwy, maethlon i’r teulu cyfan eu mwynhau. Mae hefyd yn hyfryd gweld rhieni a phlant yn treulio amser un-i-un, yn coginio gyda’i gilydd ac i rieni weld pa mor alluog y gall eu plant fod yn y gegin.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n coginio prydau cartref yn aml yn bwyta’n iachach ac yn bwyta llai o galorïau na’r rhai sy’n coginio llai. Felly, mae dysgu plant sut i goginio, yn aml yn golygu eu paratoi ar gyfer diet iachach yn y dyfodol.”

Mae’r rhaglen hefyd yn anelu at hyrwyddo coginio fel gweithgaredd hwyliog i’r teulu allu wneud gartref gyda’i gilydd ac i annog dysgu y tu allan i’r Ysgol.  Dywedodd Mared Anthony, Swyddog Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant:

“Yn yr hinsawdd bresennol, rwy’n teimlo ei bod hi’n arbennig o bwysig ein bod ni’n gwybod sut i ofalus am ein hiechyd ac yn gwybod sut i wneud ein harian mynd ymhellach, felly mae awgrymiadau gan dîm Sefydliad John Burns ar brydiau cost effeithiol, iachus, a blasus, wedi bod yn ddefnyddiol iawn i bawb.

Mae wedi bod yn bleser dod i adnabod y teuluoedd a’u gweld nhw’n treulio peth amser gwerthfawr gyda’i gilydd wrth gymryd rhan mewn tasg rydym yn aml yn ei ruthro neu’n ei gymryd yn ganiataol. Mae wedi bod yn arbennig o dda i gael siarad â’r plant a’r rhieni y tu hwnt i’r cwrs i ddysgu eu bod nhw dal i goginio gyda’i gilydd ac yn ail-greu’r ryseitiau.

Mae’r tîm Ehangu Mynediad yn parhau i ymweld ag Ysgol Trimsaran i gyflwyno gweithdai sydd yn codi dyheadau a chyrhaeddiad, a hefyd yn parhau i weithio gyda’r rhieni fel rhan o’n gwaith ymgysylltu ag oedolion. Mae ambell i riant eisoes wedi ymweld â champws Caerfyrddin am ddiwrnod o weithgareddau gyda’r tîm.”

Dau lun: plant gyda’u tystysgrifau o flaen coeden Nadolig; rhiant a phlentyn yn dal platiau â bwyd.

Wedi’u henwebu gan yr ysgol, gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gymunedol Trimsaran a rhiant/gwarcheidwad i gymryd rhan yn y rhaglen bedair wythnos hon. Mae wedi cael ei redeg gyda dwy garfan o deuluoedd o Drimsaran ers ei lansio ym mis Medi a bydd y tîm yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Gymunedol Porth Tywyn yn ystod tymor y gwanwyn. Ychwanegodd Tomos Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymunedol Trimsaran:

“Roedd y prosiect yn wirioneddol werth chweil. Mae hyder y plant wedi cynyddu ac roedd ymrwymiad y rhieni yn wych. Y pleser mwyaf oedd gweld brwdfrydedd ac awydd y rhieni i ail-greu’r ryseitiau gyda’r plant gartref.”

Sylwadau gan riant sy’n ymwneud â’r prosiect:

“Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am y rhaglen yw gwylio hyder fy merch yn tyfu a gwneud prydau blasus i weddill y teulu. Rwyf wedi dysgu bod gan fy merch gariad mawr o goginio a bod coginio prydau iach yn gallu bod yn hawdd iawn ac yn gost effeithiol.”

Sylwadau disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gymunedol Trimsaran:

“Rwyf wedi dysgu y gall coginio fod yn hwyl ac y gall ysbrydoli pobl ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”

“Rwyf wedi mwynhau treulio amser gyda mam, dod i adnabod pobl a bwyta a rhoi cynnig ar fwydydd newydd.”

Pedwar plentyn mewn ffedogau porffor a thopiau melyn yn sefyll o flaen eu mamau.

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau