Pa mor ‘styfnig yw’r stereoteipiau?
Y mis hwn, mae erthygl yng nghyhoeddiad blaenllaw Cymdeithas Seicolegol Prydain, The Psychologist, yn amlygu’r ymchwil rhyngwladol sy’n cael ei gynnal gan ddau aelod o’r staff academaidd yn adran Seicoleg a Chwnsela’r Drindod Dewi Sant.
Gwahoddwyd Dr Paul Hutchings a Dr Katie Sullivan i ysgrifennu’r thema ganolog i rifyn Mai 2023 sy’n cael ei ddosbarthu mewn print i 50,000 o aelodau BPS a’i ddarllen ar-lein gan lawer mwy.
Mae’r erthygl, ‘Gender: How stubborn are the stereotypes?’ yn cyflwyno gwaith yr awduron gyda’r prosiect rhyngwladol Towards Gender Harmony, yn ogystal â’u hymchwil eu hunain a wnaed yng Nghymru.
Meddai Dr Hutchings: “Mae’n wych gallu mynd i’r afael â’r materion hyn mewn fformat o’r math a ddarparwyd gan The Psychologist er mwyn gallu sôn am yr ymchwil a materion cydraddoldeb rhywiol i gynulleidfa eang. Mae ysgogi’r ddadl a syniadau y tu hwnt i gyhoeddiadau cyfnodolion yn rhan bwysig o’r hyn y dylem ei wneud yn academyddion ac rydym yn edrych ymlaen at arwain y ddadl hon, yng Nghymru a thu hwnt.”
Mae’r ymchwil rhyngwladol wedi arwain at nifer o erthyglau cyfnodolion gwyddonol ac mae’r ymchwil presennol yng Nghymru’n cynnwys cyfraniadau gan fyfyrwyr yn yr adran Seicoleg a Chwnsela.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071