Skip page header and navigation

Mae saer maen a ddychwelodd i fyd addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bachu ar rôl freuddwydiol fel Rheolwr Prosiect ar ôl derbyn profiad hanfodol a mewnwelediad i’r diwydiant, yn ogystal â chyfle comisiwn arbennig iawn.

Dyn mewn het galed a siaced lachar a llun o’r un dyn gyda charreg gerfiedig.

Mae Jon Langstone, myfyriwr BSc Rheolaeth Adeiladu wedi sicrhau rôl fel Rheolwr Prosiect Graddedig gyda chwmni peirianneg sifil a strwythurol yng Nghaerdydd, lle bydd yn dechrau ar ôl iddo raddio yn yr haf.

Cyn ymuno â’r Drindod Dewi Sant fel myfyriwr hŷn, roedd Jon wedi profi gyrfa gyffrous ac amrywiol a ddechreuodd gyda phrentisiaeth gwaith saer maen.

Cafodd brofiad gwaith saer maen ar draws de Lloegr wrth iddo gwblhau ei hyfforddiant, a nôl yn Abertawe sef ei dref enedigol bu’n gweithio ar brosiect adfer yng Nghastell Ystumllwynarth lle cafodd gyfle i dywys y Dywysoges Anne o gwmpas ei waith.

Mae sgiliau adeiladu yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ledled y byd, ac felly roedd hi’n hawdd i Jon i ddefnyddio’r profiadau trosglwyddadwy hyn i dreulio cyfnod yn gweithio dramor cyn dychwelyd unwaith eto i Abertawe, y tro hwn gyda’r bwriad o gryfhau ei CV gyda chymhwyser proffesiynol.

Roedd cwrs Rheolaeth Adeiladu y Drindod Dewi Sant yn gam rhesymegol ac yn cyfuno’r sgiliau ymarferol â dysgu arweinyddiaeth a rheolaeth a oedd yn ddeniadol i Jon.

Meddai: “I mi yn enwedig fel myfyriwr aeddfed, roedd symud o forthwyl a gaing i ysgrifbin a gliniadur yn gam mawr, ond roedd yn un yr oedd angen i mi ei gymryd i ennill y cymhwyster a fyddai’n caniatáu i mi symud ymlaen o fewn fy niwydiant.”

Bellach wedi dychwelyd i fyd addysg, mae Jon wedi gweld ei brofiad prifysgol yn “gefnogol” a’r staff yn “hawdd iawn siarad â nhw.”  Mae’r darlithwyr, meddai: “Er na ddylen nhw wneud hyn, fwy na thebyg, yn aml maen nhw’n ymateb i fy ymholiadau e-bost yn hwyr gyda’r nos, sef yr adeg dwi’n gweithio orau. I mi mae hyn yn dangos pa mor ymroddedig maen nhw i’w myfyrwyr.”

Dywed Jon fod prifysgol wedi ei alluogi i gwrdd a chydweithio â’r diwydiant, a’i fod wedi cael ei gyfeirio at lawer o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol gan ei ddarlithwyr.

Gan fynd ati i chwilio am brofiadau pellach ar gyfer ei CV, trwy ei radd mae Jon wedi gallu chwilio am waith rhan-amser yn adfer eglwysi ac adeiladau yn ne Cymru ac adeiladu gwesty newydd y Oyster Wharf yn y Mwmbwls, Abertawe, yn ogystal â fel gwirfoddolwr ar ysbyty Tywysog Charles ym Methyr Tudful gyda’r cwmni adeiladu blaenllaw, Tilbury Douglas.

Ond efallai mai’r foment fwyaf cofiadwy iddo oedd cael ei gomisiynu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gerfio tarian fawr i  goffáu’r daucanmlwyddiant yn 2022, cerflun bythol a fydd yn addurno’r Brifysgol am flynyddoedd i ddod. Wrth ddylunio, torri a cherfio’r garreg enfawr, dywedodd ei fod yn rhoi “pleser mawr” iddo weithio ar rywbeth fel hyn ar gyfer ei ddinas leol.

Carreg gerfiedig o logo PCYDDS a dyn yn cerfio carreg.

Dywedodd Deborah Hughes, darlithydd o gwrs Rheolaeth Adeiladu y Brifysgol:

“Roeddwn i wrth fy modd pan gytunodd Jon i gerfio tarian Y Drindod Dewi Sant a chaiff le anrhydeddus yma y tu allan i adeilad IQ ar gampws SA1 Glannau Abertawe.

Mae gyrfa ragorol o’i flaen ym maes rheoli adeiladu ac y bydd yn gaffaeliad mawr i’r diwydiant. Mae wedi bod yn fyfyriwr ardderchog ac yn bleser i’w ddysgu – dymunwn bob dymuniad da iddo!”

Bydd Jon yn ddechrau ar ei rôl yn Rheolwr Prosiect Graddedig 2 flynedd gyda Burroughs yng Nghaerdydd yr haf hwn.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau