Skip page header and navigation

Bydd chwech o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yr wythnos hon.

Yn sefyll ar y grisiau canolog yn Adeilad IQ, mae chwe myfyriwr yn cynnwys Rohan Chavan a David Ntino yn gwisgo hwdis coch ac yn dal crys chwys coch Tîm Cymru/ Team Wales.

Bydd dros 50 o rowndiau terfynol, gan ddechrau yfory (14 Tachwedd), yn cael eu cynnal mewn naw lleoliad ym Manceinion gyda 500 o gystadleuwyr o bob rhan o’r DU. Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Bydd David Ntino yn cystadlu yn rownd derfynol Systemau Rhwydwaith, a bydd Rohan Chavan yn cystadlu yn y gystadleuaeth Seilwaith Rhwydwaith. Mae’r ddau yn fyfyrwyr y cwrs MSc mewn Seiberddiogelwch a Fforensig Digidol.

Yn ogystal, bydd pedwar Prentis Gradd yn cystadlu hefyd, sef, Oscar McNaughton, sy’n gyflogedig yn CBM Cymru, a fydd yn cystadlu yn y categori Gweithgynhyrchu Uwch, Morgan Evans sy’n cael ei gyflogi gan Safran Seats a Jacob Gibbons sy’n cael ei gyflogi gan FSG Tool and Die yn cystadlu yn y categori Melino Rhifyddol Cyfrifiadurol (CNC) a Kian Lloyd sydd hefyd yn cael ei gyflogi gan FSG Tool and Die yn cystadlu yn rownd derfynol Troi CNC.

Dywedodd Lee Pratt, Rheolwr Academi Gweithgynhyrchu a Sgiliau Uwch (AMSA): “Rydym yn hynod falch o gyflawniadau ein cystadleuwyr. Maen nhw i gyd wedi dangos penderfyniad mawr i ragori ac wedi bod yn ymroddedig ers y diwrnod cyntaf. Dymunwn y gorau iddynt ar y daith hon.”

Nod yr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch (AMSA) yw datblygu, cynnal ac adeiladu ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar brentisiaid gweithgynhyrchu a chyflogwyr i gyflwyno’r technolegau sy’n cadw’r diwydiant gweithgynhyrchu’n gystadleuol yn fyd-eang. Mae’r Academi’n darparu hyfforddiant gwell i fyfyrwyr Peirianneg, prentisiaid a busnesau ar yr offer peirianyddol a’r offer archwilio diweddaraf o safon y Diwydiant.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae AMSA yn gweithio mewn partneriaeth â thri o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y diwydiant gweithgynhyrchu: Mazak (cyflenwr offer peiriannol), Renishaw (offer mesur/arolygu) a Sandvik Coromant ( cyflenwr offer torri deunydd).

Mae’r Brifysgol yn cynnig rhychwant o Radd Brentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch o Archaeoleg, Digidol a Pheirianneg i Gwydr Lliw. Ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy.

Mae WorldSkills UK yn elusen annibynnol ac yn bartneriaeth rhwng cyflogwyr, addysg a llywodraethau. Gyda’i gilydd, maent yn defnyddio arfer gorau rhyngwladol i godi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol fel bod mwy o bobl ifanc a chyflogwyr yn llwyddo.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau