Skip page header and navigation

Bob blwyddyn bydd tîm y rhaglen BA/MDes Patrymau Arwyneb a Thecstilau  yn chwilio am bartneriaethau ar gyfer Prosiectau Byw uchelgeisiol i’w myfyrwyr.   Mae’r rhaglen hon wedi’i lleoli yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd mae yn y 3ydd safle yn y DU, 1af yng Nghymru, ym maes mawr a chystadleuol cyrsiau gradd Ffasiwn a Thecstilau (Tablau Cynghrair y Guardian 2024). Mae’r rhaglen yn credu bod llawer o’i llwyddiant yn deillio o’r strategaeth Dysgu Entrepreneuraidd fywiog sy’n sail i brofiad y myfyrwyr.  

Mae Carwyn Davies o Hacer yn sefyll ar flaen grŵp mawr o fyfyrwyr Patrwm Arwyneb a Thecstilau.

Mae ethos y tîm yn cyfuno Creadigrwydd â Chyflogadwyedd gydol y rhaglen, gan sicrhau bod myfyrwyr yn graddio â phortffolio o brosiectau dylunio anhygoel wedi’u gwreiddio mewn profiadau diriaethol yn y Diwydiannau Creadigol, ynghyd â set sgiliau entrepreneuraidd sydd wedi’i harfer yn helaeth.  

Mae natur amlddisgyblaethol ehangach y maes pwnc hwn â ffocws ar Decstilau yn rhoi i’r myfyrwyr nifer mawr o brofiadau gyda briffiau byw, o gysylltiadau â brandiau byd-eang i gydweithio â mentrau cymunedol.   Eleni mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn falch o fod yn bartner i Hacer Developments , a’u cydweithredwyr Urban Foundry , i ddatblygu cysyniadau o ran addurno mewnol ar gyfer y prosiect arloesol Bywyd Bioffilig Abertawe .

Mae’r prosiect Bywyd Bioffilig yn Iard Picton yn Abertawe yn cynrychioli ymagwedd radical newydd tuag at fyw a gweithio yn yr amgylchedd trefol.   Mae Bywyd Bioffilig yn ymwneud â galluogi pobl i ailgysylltu â natur a chreu cymuned gydlynol er mwyn mynd i’r afael â’r anawsterau cynyddol yn gysylltiedig ag allgau cymdeithasol ac unigrwydd, yn ogystal ag ymateb i’r argyfwng hinsawdd gyda thechnoleg arloesol a gosod natur wrth galon y ddinas.  Mae’r prosiect yn ddatblygiad defnydd cymysg, sy’n darparu cartrefi newydd fforddiadwy a lle gwaith wrth ochr fferm drefol gymunedol yng Nghanol Dinas Abertawe.  

Meddai’r Rheolwr Rhaglen, Georgia McKie: “Mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn dwlu ar y cyfle i ymateb i brosiectau ystyrlon wedi’u lleoli yn ardal Abertawe. Mae’n ffordd wych o roi yn ôl i’r ddinas y mae cynifer o’r myfyrwyr yn falch o’i galw’n gartref iddyn nhw.   Mae ethos y prosiect Bywyd Bioffilig yn taro tant go iawn.   Mae syniadau ynghylch llesiant mewn dylunio a chynaliadwyedd yn rhan ganolog o’r sgyrsiau a gawn â’n myfyrwyr.   Does dim byd yn union fel y datblygiad hwn yn y DU eto – mae bod yn rhan ohono’n rhoi cymaint o gyffro i ni.   Mae’r cyfle i alluogi ein myfyrwyr i fod yn rhan o newid mor gadarnhaol yn anhygoel.   Fel israddedigion a fydd yn graddio cyn hir, mae hyn yn eu rhoi nhw mewn safle sy’n wir yn freintiedig ac yn destun cenfigen.”

Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau ymweld â safle adeiladu Bywyd Bioffilig dafliad carreg i ffwrdd o gampws Dinefwr, yng nghanol Abertawe.  Roedd yr ymweliad a’r briffio am y prosiect wedi dal eu dychymyg, gan eu syfrdanu â chysyniadau ynghylch rhodfeydd bioffilig, hydroponeg, acwaponeg gyda mannau tyfu ar draws yr adeiladwaith rhyfeddol sy’n codi’n fry uwch eu pennau.  

Mae timau Hacer ac Urban Foundry wedi’u herio i ystyried sut gall patrymau, arwyneb, deunydd a lliw gyfrannu at gysyniadau Bywyd Bioffilig Abertawe a chael eu defnyddio i gyfoethogi ymdeimlad o le a hunaniaeth, gan greu llawenydd, a hybu llesiant.   Mae’r prosiect yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn yr achos hwn mae’n galluogi cenedlaethau o ddylunwyr y dyfodol i chwarae rôl arwyddocaol yn rhai o’r cysyniadau o ran addurno mewnol ar gyfer cysyniad arloesol ynghylch adeiladu a byw.

Mae’r myfyrwyr yn cael eu herio i fynd i’r afael â rhai o’r anawsterau ynghylch dylunio a’i effaith ar y blaned drwy ffocws ar ailddefnyddio deunyddiau a gasglwyd o ffrydiau gwastraff ôl-gynhyrchu, gweddillion annisgwyl y broses adeiladu ei hun, gyda chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i ddewis deunyddiau sy’n adlewyrchu gwerthoedd bioffilig y prosiect.

Samplau o ddefnydd wrth ochr nodiadau dylunio gyda ffotograffau a brasluniau.

Ychwanegodd Georgia McKie: “Mae’r myfyrwyr yn ffynnu gan ddefnyddio dulliau meddylgar gyda’u deunyddiau, o baletau llifynnau effaith isel wedi’u casglu o ardal Abertawe i’r rheini sy’n archwilio straeon ynghylch treftadaeth ddiwydiannol Abertawe drwy gyfeiriadau ystyriol at wlân, copr, a dur.  Does dim pall ar allu’r myfyrwyr i’n rhyfeddu drwy ddynodi naratif a’i fynegi drwy batrymau, arwyneb, deunyddiau, a lliw – mae’r setiau sgiliau maen nhw wedi’u meithrin ym maes Tecstilau’n wir yn syndod i ni.”

Ymwelodd tîm Hacer â’r myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau am adolygiad o waith ar y gweill yn eu stiwdio ddylunio hyfryd yn adeilad Dinefwr Coleg Celf Abertawe.  

Meddai Carwyn Davies o Hacer:  “Mae’r prosiect Bioffilig yn un arloesol iawn, a hefyd mae’n cynnwys elfen sylweddol o addysg a man arddangos. Felly mae’n bleser mawr gweithio gyda’r myfyrwyr a’r darlithwyr yn y Coleg Celf yn y Drindod Dewi Sant. Mae wedi bod yn agoriad llygad ynghylch y doniau a’r sgiliau sydd gan bobl ifanc y ddinas, ac edrychwn ymlaen at gynnwys eu dyluniadau a’u gwaith yn y prosiect. Mae’r pwyslais wedi bod ar greu naratif sy’n wir â newid yn yr hinsawdd ac Abertawe yn ganolog iddo!”

Meddai Claire Savage-Onstwedder, darlithydd a thiwtor yr 2il flwyddyn:  “Mae briff byw eleni yn gyfle mor enfawr i’r holl fyfyrwyr sy’n ymwneud ag ef.  Gallwn edrych allan o’r stiwdio Patrymau Arwyneb a Thecstilau yma yn Adeilad Dinefwr ar y 5ed llawr a gweld yr Ardal Bywyd Bioffilig hon yn tyfu o flaen ein llygaid; ac wedyn i’r myfyrwyr gael cymryd rhan yn ei datblygiadau arloesol a chysyniadau am addurno mewnol; mae’n fraint o’r mwyaf.

“Bydd cyfleusterau sy’n unigryw i’n cwrs ni’n cael eu harddangos drwy ddyluniadau a’r samplu gan y myfyrwyr, megis argraffwyr arwyneb caled uwchfioled a thorri â laser ynghyd â phrosesu analog megis argraffwaith neu bwytho.  Yr atebion arloesol hyn sydd wedi’u gwneud o ddeunydd ‘gwastraff’ neu ‘stoc farw’ yw ein dyfodol; ac mae’r briff hwn yn dathlu dylunio newydd mewn adeilad newydd arloesol, gyda diolch i Hacer a’r tîm; yng nghanol ein dinas, Abertawe.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant:  “Rydym ni wrth ein boddau o gael y cyfle i weithio gyda Hacer ar y datblygiad cyffrous hwn yn y ddinas. Mae profiadau byw gyda diwydiant fel y rhain yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl ac mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus”.

O 29 Ionawr tan 23 Chwefror bydd arddangosfa o gynnyrch terfynol y myfyrwyr ar Gampws Dinefwr, Coleg Celf Abertawe.   Mae’n argoeli y bydd ehangder o ddehongliadau deinamig ar gyfer yr amrywiaeth o amgylcheddau domestig, gwaith, cyhoeddus a chymunedol arfaethedig.   

Carwyn Davies yn gwrando ar fyfyriwr.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon