Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr MA Theatr Gerddorol ac MA Perfformio Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn brysur yn paratoi at eu perfformiad o ‘Gwyrth’.

Poster dwyieithog yn hysbysebu’r refiw theatr – Gwyrth.

Daeth y darlithwyr Elen Bowman ac Eilir Owen Griffiths at ei gilydd i greu y refiw theatr ‘Gwyrth’ sy’n plethu caneuon o’r sioeau cerdd a thestunau o ddramâu cyfoes. Bydd y sioe yn gyflwyniad am gariad a’r hyn sydd yn ein tanio ni i gysylltu â’n gilydd a bydd hud yr ŵyl i’w weld yn ystod y perfformiad.

Bydd ‘Gwyrth’ yn cael ei berfformio ar 16 Rhagfyr yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd. Dyma berfformiad cyhoeddus cynta’r myfyrwyr eleni fel grŵp. Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru:

“Mae’r cynhyrchiad hwn yn brosiect diddorol, gwahanol ac yn llawn chwilfrydedd. Bydd y perfformiad hwn yn gyfle arbennig i’r myfyrwyr ddangos a chymhwyso’r sgiliau y maent wedi’u dysgu o’u modiwlau canu, actio a dawns yn ystod eu tymor cyntaf ar y cwrs tra’n gweithio ar brosiect amrywiol sy’n mynd i apelio at ddant pawb.”

Meddai Nico James sy’n aelod o’r cast:

“Mae cymryd rhan yn y cynhyrchiad hwn wedi bod yn daith mor greadigol, gan ein bod yn curadu’r sioe ein hunain ac yn llunio repertoire ar gyfer pob person yn y dosbarth mae’n rhan hanfodol iawn i ddeall beth sy’n mynd ymlaen i greu sioe. Rydym wedi datblygu ein sgiliau canu mewn ensemble a chanu deuawdau, actio fel rhan o ensemble, actio gyda phartner, ac actio unigol!

“Bydd y cynhyrchiad hwn o gymorth mawr i’n hastudiaethau gan y bydd yn ein paratoi ac yn datblygu ein sgiliau ar gyfer ein perfformiadau yn ddiweddarach yn y cwrs gan eu bod yn ddau genre ac arddull sy’n wahanol iawn. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno ein sioe i’r cyhoedd a gobeithio ysbrydoli a gyrru’r gynulleidfa i ffwrdd gyda neges gadarnhaol o gariad a llawenydd ar gyfer tymor yr ŵyl!”

Ychwanegodd Victoria Davis, aelod arall o’r cast:

“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn gyda grŵp mor dalentog o bobl. Mae wedi bod yn broses gydweithredol bleserus, ac mae llais unigol unigryw pawb wedi bod yn bresennol drwy gydol ei greu. Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o werth chweil yw gallu darganfod drosom ein hunain taith ein cymeriad drwy gydol y sioe a sut maen nhw i gyd yn ymwneud â’i gilydd mewn rhyw ffordd. Mae amrywiaeth eang o olygfeydd ensemble, yn ogystal â rhai unigol, deuawdau a monologau, sydd i gyd wedi ein helpu i wella ein gallu fel perfformwyr theatr gerddorol.

“Mae’r cynhyrchiad hwn yn gyfle gwych i ni arddangos y sgiliau yr ydym wedi bod yn eu ddatblygu yn ystod y cwrs ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei berfformio o flaen cynulleidfa. Dyma’r sioe berffaith ar gyfer tymor y Nadolig, wrth iddi archwilio’r holl wahanol fathau o gariad ac mae ganddo neges sy’n codi calon.”

Meddai’r darlithydd Elen Bowman:

“Mae’r myfyrwyr i gyd wedi cymryd i’r afael a natur y storio a’r llwyfannu sydd yn iachus iawn i fyfyrwyr MA â’u bryd ar arbenigo yn y maes. Dwi’n meddwl fydd digon yn y sioe at ddant pawb, doniolwch, canu gwych a naws yr wyl yn treiddio a’r oll mewn safle hyfryd yn y bae.”

Bydd yna ddau berfformiad – am 6 ac 8 yr hwyr. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd i’w gael, ac mae modd eu harchebu o Ganolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau