Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr y cwrs Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan mewn prosiect cyfnewid creadigol rhyngwladol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Cynllunio a Thechnoleg Amgylcheddol (CEPT) yn Ahmedabad, India.

Darlun o berson mewn llyfrgell llawn drychau yn edrych i fyny ac yn pwyntio.

Prosiect India-Cymru yw ‘Communities of Choice’ a ddyfeisiwyd gan y Chennai Photo Biennale Foundation, India, mewn partneriaeth â Ffotogallery Wales ac a gefnogir trwy’r Rhaglen ‘India-UK Together Season of Culture’ gan y British Council.

Mae’r arddangosfa yn Biennale Kochi yn cynnwys gwaith 10 artist o India a Chymru. Gwahoddwyd myfyrwyr i ymateb i thema benodol trwy destun, ffotograffiaeth, fideo, darlunio, sain, ac unrhyw fformatau eraill o’u dewis.

Gellir gweld y canlyniadau ar wefan y prosiect communitiesofchoice.org

Bu pum prifysgol o India a Chymru’n cymryd rhan yn rhan o’r Gymuned Myfyrwyr.

IIT Madras, Coleg Cerddoriaeth a Chelfyddyd Gain RLV - Kochi, cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Abertawe, rhaglen lenyddiaeth o Gymru, a Phrifysgol CEPT.

Gwahoddwyd y Drindod Dewi Sant i gymryd rhan ar ôl i’r Rheolwr Rhaglen, Katherine Clewett, ymweld â Biennale Ffotograffiaeth Kochi India yn ddiweddar.

Meddai Katherine Clewett: “Rhoddwyd tasg i Fyfyrwyr CEPT gyrchu elfen o waith yn ymwneud â’r syniad o ‘ofod’ yng nghyd-destun ‘cymuned’. Rhoddodd hyn ysbrydoliaeth ar ffurf awgrymiadau testun a delweddau i fyfyrwyr cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Abertawe ymateb iddynt trwy eu dewis ddisgyblaeth a oedd yn cynnwys celfyddyd gain, tecstilau, cerameg, dylunio cynnyrch, crefftau, darlunio, dylunio graffig, a ffotograffiaeth.

“Rwy’n hynod falch o ran sut mae’r cydweithrediad wedi gweithio, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Chennai Photo Biennale Foundation a Ffotogallery am ein croesawu ni.

“Roedd yr awgrymiadau a anfonwyd gan CEPT i gipio ymatebion ein myfyrwyr yn gysyniadol ac yn seiliedig ar broses. Fe wnaeth y rhain herio canlyniadau creadigol ein myfyrwyr ni a oedd yn ysgogi meddwl ac wedi’u hystyried yn ofalus. Gweithiodd y ddau set o fyfyrwyr yn unol ag amserlen lem, gan amlygu eu gallu i weithio’n greadigol ac yn broffesiynol.

“Mae’r prosiect hwn wedi gosod cynsail ar gyfer cydweithrediadau rhyngwladol rhwng sefydliadau creadigol ac addysgol i’r dyfodol.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd (y Celfyddydau a’r Cyfryngau) Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn fod ein myfyrwyr Tyst AU Sylfaen Celf a Dylunio wedi gallu cymryd rhan yn y prosiect a’r arddangosfa Ryngwladol hon. Yng Ngholeg Celf Abertawe, rydym yn gwthio ein myfyrwyr i gyflawni’r safonau uchaf ac mae’r arddangosfa Ryngwladol hon yn arddangosiad gwych o’r cyrhaeddiad hwn, rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau