Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dod â chynhadledd a ffair yrfaoedd Future You y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT) i Abertawe a Chymru am y tro cyntaf, gyda’r bwriad o wneud y digwyddiad yn un blynyddol.

Myfyrwyr yn gwrando ar ddarlithydd yn yr ystafell drochi

Mae’r gynhadledd, Future You: Make a Splash in Swansea, sy’n cael ei gynnal gan y Drindod Dewi Sant ac a gefnogir gan ABTA, Sefydliad Lletygarwch Cymru a’r diwydiant yn ehangach, yn agored i ysgolion, colegau, myfyrwyr prifysgol a chyn-fyfyrwyr. Mae croeso hefyd i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant neu’r sawl sydd â diddordeb mewn teithio, twristiaeth, digwyddiadau, lletygarwch neu weithgareddau hamdden.

Bydd yn ddigwyddiad rhyngweithiol sy’n symud yn gyflym, gydag amrywiaeth o siaradwyr a chysylltiadau fideo o bob rhan o’r byd, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus o’r Drindod Dewi Sant. Bydd yn rhoi cyfle i’r mynychwyr rwydweithio a chwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan dîm bach o fyfyrwyr Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol a Rheolaeth Digwyddiadau yn y Drindod Dewi Sant, ar y cyd â’r ITT a chymorth o’r diwydiant. Bydd ffocws cryf ar Dwristiaeth Mordeithio gan fod dau o’r myfyrwyr, Amanda ac Amy, yn Llysgenhadon ABTA sy’n cael eu mentora gan Royal Caribbean International. Cwblhaodd myfyriwr arall, Josh, leoliad gyda Celebrity Cruises yn teithio o amgylch ardal Môr y Canoldir, y Deyrnas Unedig a Sgandinafia, ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr Sefydliad Lletygarwch Cymru. Bydd myfyriwr arall, Mel, yn rheoli’r cydweithio gyda’r diwydiant ac yn rhedeg y cyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod.

Mae Future You: Make A Splash in Swansea yn ymwneud â dathlu llwyddiannau a chyfleoedd yn y diwydiant, a datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwych fel y gall myfyrwyr ddilyn gyrfaoedd amrywiol ar draws nifer o sectorau gwahanol. Mae’r Drindod Dewi Sant yn gwahodd pobl o amrywiol ddisgyblaethau i fod yn bresennol, gan gynnwys y meysydd Digwyddiadau, Lletygarwch, Arlwyo, Hamdden, Chwaraeon a Busnes, yn ogystal â Theithio a Thwristiaeth.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Teithio, Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Drindod Dewi Sant: “Roeddem wrth ein bodd i gael ein gwahodd i ddod â Chynhadledd Future You yr ITT ar gyfer Myfyrwyr a’r Diwydiant i Abertawe. Mae’n gyfle anhygoel i’n myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio’r digwyddiad unigryw hwn.

“Mae’r myfyrwyr wedi cynllunio diwrnod cyffrous, rhyngweithiol sy’n dathlu cyfleoedd Teithio a Thwristiaeth yn y cyfnod ôl-Covid, ac maent yn edrych ymlaen at groesawu ysgolion, colegau a’r diwydiant i fod yn rhan o’r profiad. Gyda siaradwyr, cysylltiadau fideo a rhwydweithio, bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar draws y Busnes Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch yng Nghymru a ledled y byd.”

Cynhelir y digwyddiad ar 14 Mawrth 2023 yn Arena Abertawe. Cadwch le am ddim ar Eventbrite. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau