Skip page header and navigation

Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams nos Fercher, 6 Rhagfyr.

Yn gwisgo sgarff shiffon las a chot law lwydfelyn, mae’r Athro Jane Aaron yn pwyso yn erbyn rheiliau wrth lan afon; y tu ôl iddi mae pont garreg fawr yn arddull y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r ddiweddar Mrs Gwen Williams. Y siaradwr gwadd eleni yw’r Athro Jane Aaron.

Mae’r Athro Jane Aaron yn Athro Emeritws yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru. Hi yw golygydd cyfres ailargraffiad Gwasg Honno, ‘Welsh Women’s Classics’, a hi ei hun a olygodd bump o’r cyfrolau. Mae ei monograffau’n cynnwys Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales (2007), a enillodd Wobr Roland Mathias 2009, a Welsh Gothic (2013). Roedd hi’n gyd-sylfaenydd y gyfres ‘Gender Studies in Wales’ gan Wasg Prifysgol Cymru. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cranogwen (GPC, 2023).

Testun y ddarlith fydd ‘ “O’r glynnoedd i’r goleuni”: Gwleidyddiaeth Beirdd y Meysydd Glo’. Ganwyd J. E. Caerwyn Williams ym 1912 ym mhentref diwydiannol Gwauncaegurwen, sir Forgannwg, yn fab i löwr. Yn y ddarlith hon, cawn olwg ar y diwylliant Cymraeg cyfoethog y magwyd ef ynddo, gyda’i doreth o feirdd, llawer ohonynt wedi cychwyn eu gyrfaoedd yn gweithio yn y pyllau glo. Yn ôl rhai o feirniaid ail hanner yr ugeinfed ganrif, roedd eu llên yn wan o ran ei gwleidyddiaeth: bodlonent ar greu darlun o’r glöwr fel merthyr goddefol, gan ymwrthod â sosialaeth gynnar y cyfnod. Fodd bynnag, erbyn heddiw, yn oes y newid hinsawdd, gellir gweld yng ngwaith nifer ohonynt wleidyddiaeth wrth-gyfalafol amgen, sef gwleidyddiaeth werdd. ‘Gadewch y glo yn y ddaear’ yw neges rhai o’r beirdd Cymraeg, neu dyna, o leiaf, a ddadleuir yn y ddarlith hon.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Mae cyfraniad yr Athro Jane Aaron i ysgolheictod Cymru yn un gloyw a sylweddol iawn ac rydym yn hynod falch iddi dderbyn y gwahoddiad i draddodi Darlith Goffa Gwen a J. E. Caerwyn Williams eleni. Yn ogystal â bod yn ymchwilydd praff a blaengar, llwydda hefyd i fynegi ffrwyth ei gwaith mewn perthynas â chwestiynau mawr ein hoes ni heddiw, fel gwelwyd gyda’i bywgraffiad diweddar o Granogwen. Edrychwn ymlaen yn arw at glywed ei darlith.’

Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein nos Fercher, 6 Rhagfyr 2023, am 5.30 o’r gloch.

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau