Skip page header and navigation

Bu gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau raglen lawn ar gyfer Ffair Lyfrau Llundain 2023 a gynhaliwyd Ebrill 18–20 eleni. Bwriad y rhaglen oedd hyrwyddo a rhyngwladoli’r llenyddiaeth orau o Gymru, ac roedd yn cynnwys cyfarfodydd â chyhoeddwyr rhyngwladol yn ogystal â digwyddiadau gydag awduron o Gymru a thu hwnt.

Stondinau gan Cyhoeddi Cymru a’r Ganolfan  Cyfieithu Llenyddol yn ffair lyfrau Llundain 2023.

Mae Ffair Lyfrau Llundain yn ddigwyddiad hynod bwysig i’r diwydiant cyhoeddi. Yno mae asiantiaid a chyhoeddwyr rhyngwladol yn rhannu gweithiau newydd ac yn creu cytundebau masnachol i fedru cyhoeddi llyfrau wedi eu cyfieithu. Yn ogystal, mae’r ffair yn gweithredu fel fforwm ar gyfer y ddisgẃrs a’r tueddiadau diweddaraf yn y sector.

Gyda chymorth stondin Cyhoeddi Cymru, a gefnogwyd gan Gymru Greadigol, cynhaliodd CLC a LAF lu o gyfarfodydd gyda chyhoeddwyr tramor yn ogystal â rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau gyda llenorion rhyngwladol, gan gynnwys yr awduron arobryn Fflur Dafydd a Megan Angharad Hunter.  

Mae gweithiau gan y ddwy yn rhan o Silff Lyfrau CLC, sef detholiad o lenyddiaeth gan awduron o Gymru a argymhellir i gyhoeddwyr rhyngwladol ar gyfer eu cyfieithu. Gall cyhoeddwyr rhyngwladol wneud cais i’r Gronfa Grantiau Cyfieithu sy’n cefnogi cyfieithu llyfrau gan awduron o Gymru. Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2018) gan Manon Steffan Ros ydy un o brif lwyddiannau’r gronfa, sydd bellach wedi gwerthu’r hawliau i’w chyfieithu i naw iaith wahanol gan gynnwys Arabeg, Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg.

Dywedodd Elin Haf, Swyddog Prosiectau Cyfnewidfa Lên Cymru: “Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod cyhoeddwyr rhyngwladol ar stondin Cyhoeddi Cymru, ac yn arddangos llyfrau gan awduron o Gymru wedi’u cyfieithu i ieithoedd gwahanol.”

Portreadau o Fflur Dafydd, Megan Angharad Hunter a Samvartha Sahil.

Fflur Dafydd, Megan Angharad Hunter a Samvartha Sahil

Cynhaliwyd sgwrs yng nghwmni Casi Dylan rhwng Fflur Dafydd ac Iva Pezuashvili, yr awdur o Georgia a enillodd Wobr yr Undeb Ewropeaidd am Lenyddiaeth yn 2022. Cyfrannodd Megan Angharad Hunter, sydd bellach wedi cyfieithu tu ôl i’r awyr (Y Lolfa, 2020) i’r Saesneg, at drafodaeth amlwladol am fynediad at, a hygyrchedd o fewn cyfieithu yn y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol. Yn ddiweddar, ymunodd Megan â thaith Literary Europe Live i India. Cefnogwyd hyn gan Taith, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a sefydliadau tebyg mewn gwledydd eraill, ac fe’i trefnwyd gan Gyfarwyddwr LAF, Alexandra Büchler. Bu Alexandra yn siarad yn y ffair lyfrau mewn sesiwn o’r enw ‘Translation in Motion’, a oedd ynglŷn â’r prosiect Ulysses’ Shelter, sy’n cynnig teithiau cyfnewid preswyl i wledydd yn Ewrop i awduron a chyfieithwyr ar gychwyn eu gyrfa.

Siaradodd Fflur Dafydd mewn ail sesiwn, sef ‘Page to Screen as Translation’ gyda’r awdur a’r sgriptiwr Awstraidd-Almaenig Daniel Kehlmann a’r bardd, cyfieithydd a gwneuthurwr ffilimau Samvartha Sahil, sydd bellach wedi ymuno â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru am dri mis yn y gwanwyn fel Cymrawd mewn ysgrifennu creadigol a chyfieithu dan nawdd Ymddiriedolaeth India Charles Wallace 2023.

Mae CLC a LAF yn aelodau o rwydwaith ENLIT – European Network for Literary Translation – a chafwyd cyfle yn ystod y ffair lyfrau i gyfarfod â sefydliadau eraill sydd hefyd yn bartneriaid.  

A hithau’n aelod o fwrdd ENLIT, dywedodd Alexandra Büchler: “Roeddem wrth ein boddau yn dychwelyd i Ffair Lyfrau Llundain i gyflwyno gwledd o raglen a lwyddodd i osod byd llenyddol Cymru ar lwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chyfarwyddwr Strategol Cyfnewidfa Lên Cymru: “Rydym yn ddiolchgar i’r cyllidwyr a’n galluogodd ni i fynychu Ffair Lyfrau Llundain eleni a pharhau efo’n gwaith o gyflwyno llenyddiaeth orau Cymru i’r byd ac o gyfoethogi ac ymestyn gyrfaoedd yr ysgrifenwyr o Gymru sy’n elwa o’n cefnogaeth drwy ein prosiectau rhyngwladol a’n rhaglenni amlieithog.”

Cysylltwch ag:

Elin Haf Gruffydd Jones: elin.jones@pcydds.ac.uk

Alexandra Büchler: alexandra@lit-across-frontiers.org

Elin Haf: post@cyfnewidfalen.cymru 

Golwg ar y stondinau gwahanol yn ffair lyfrau Llundain 2023.

Nodyn i’r Golygydd


1. Am restr lawn o’r digwyddiadau, gweler y ddogfen PDF atodedig - Rhaglen - Programme 2023

2. Stondin Cyhoeddi Cymru: lansiwyd am y tro cyntaf yn Ffair Lyfrau Llundain yn 2018 fel menter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Yn 2023 cafodd y stondin ei chefnogi am y tro cyntaf gan Gymru Creadigol a’i chydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chyhoeddi Cymru, y gymdeithas a sefydlwyd yn ddiweddar i gyhoeddwyr o Gymru.

3. The Literary Translation Centre / Y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol: sefydlwyd yn 2010 gan gonsortiwm o sefydliadau, yn cynnwys LAF, i ddwyn at ei gilydd mewn modd gwefreiddiol y dadleuon diweddaraf ar gyfieithu. Mae ganddi raglen sy’n cynnig darpariaeth ar gyfer cyfieithwyr llenyddol a gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector llyfrau, gan gynnwys cyhoeddwyr, asiantiaid, awduron a chynrychiolwyr o sefydliadau llenyddol. Mae rhaglen lawn y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol, un o nifer o raglenni thematig, i’w gweld yma. Mae uchafbwyntiau eraill y rhaglen yn cynnwys Salon Lenyddol PEN gyda dadleuon am Wcráin, y wlad a gâi sylw arbennig yn y ffair.

4. Dolennau i fywgraffiadau’r awduron:

Fflur Dafydd 
Samvartha Sahil  
Megan Angharad Hunter 
5. Cefndir

Sefydlwyd Cyfnewidfa Lên Cymru yn 1998 i hyrwyddo llyfrau ac awduron o Gymru ac i gyfrannu at ryngwladoli sîn lenyddol Cymru. Mae ei harwyddair yn adlewyrchu ei gweithgareddau: “Cyfieithu Cymru, darllen y Byd”. Cewch fwy o wybodaeth am CLC yma.

Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw’r llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a dadlau pholisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. Cewch fwy o wybodaeth am LAF yma.

Mae CLC a LAF ill dau wedi’u lleoli yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cefnogir gweithgareddau CLC a LAF gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllidwyr eraill. Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn mynychu Ffair Lyfrau Llundain yn flynyddol ers dros 20 mlynedd, yn ogystal â Ffair Lyfrau Frankfurt, y digwyddiad pwysicaf yng nghalendr y sector llyfrau yn fyd-eang, a ffeiriau llyfrau eraill yn Ewrop a thu hwnt.

Caiff rhaglen y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol ei chydlynu gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig, Canolfan Genedlaethol Ysgrifennu Cymru, PEN Saesneg, Canolfan Gyfieithu Prydain a sefydliadau eraill, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Ymddiriedolaeth India Charles Wallace a Gwobr yr Undeb Ewropeaidd am Lenyddiaeth.

Mae rhwydwaith ENLIT yn dwyn ynghyd 27 o sefydliadau sy’n hyrwyddo a chefnogi cyfieithu eu llenyddiaeth genedlaethol o bob cwr o Ewrop. Ar hyn o bryd mae Cyfarwyddwr LAF, Alexandra Büchler, yn gwasanaethu ar ei fwrdd.

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog.

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posib, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau