Skip page header and navigation

Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi bod Ken Owens, Capten y Scarlets, y Llewod a Chymru ar hyn o bryd, wedi ymuno â staff hyfforddi’r Clwb Rygbi Dynion.

Ken Owens yn gwisgo siaced borffor bwfflyd y Drindod Dewi Sant.

Nid yw Ken yn ddieithr i’r Brifysgol, ar ôl derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus yng Nghaerfyrddin, ei dref enedigol, yn ystod haf 2019. Un diwrnod, nid yn y dyfodol agos gobeithio, bydd Ken yn meddwl am fywyd ar ôl chwarae rygbi, ac yn ddiweddar dechreuodd astudio ar gyfer dyfarniadau hyfforddi Undeb Rygbi Cymru. Yn rhan o’r broses hon, mae’n awyddus i ennill profiad ym maes hyfforddi.

Mae Ken wedi derbyn rôl wirfoddol yn aelod o’r staff hyfforddi gydag Academi Chwaraeon a bydd yn goruchwylio blaenwyr tîm rygbi’r Brifysgol, wrth rannu ei wybodaeth helaeth â’r chwaraewyr.

Cyn i Ken ddechrau ar ei daith yn Gapten ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad, meddai:

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ddechrau ar fy nhaith hyfforddi yn Y Drindod Dewi Sant. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda phawb yn y Brifysgol. Mae’n adeg gyffrous yn yr Academi Chwaraeon, a gobeithio y bydda i’n gallu ychwanegu gwerth at ei datblygiad, a helpu’r myfyrwyr i wireddu eu potensial ar y cae ac oddi arno.”

Ken Owens gyda thîm rygbi myfyrwyr ar gae dan do gyda llifoleuadau.

Croesawodd Gareth Potter, Pennaeth Rygbi Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant, y penodiad cyffrous.

“Pan glywes i gan Undeb Rygbi Cymru fod Ken yn gweithio tuag at ei fathodynnau hyfforddi, dyma fi’n cysylltu ag e ar unwaith. Ces i’r pleser o weithio gyda Ken am flynyddoedd lawer a’r gobaith o’i ychwanegu at ein cwrs hyfforddi ar yr adeg gyffrous i’r Brifysgol yn gyfle mawr. Mae Ken yn ymgorffori popeth mae’r Brifysgol, a rygbi yn y Brifysgol, yn sefyll drosto – Cymreictod, cymuned a rhagoriaeth. Mae eisoes wedi cael effaith fawr ar y sesiynau mae e wedi’u rhedeg, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu e’n ôl pan fydd e wedi arwain Cymru drwy’r Chwe Gwlad eleni.”

Meddai Pennaeth Academi Chwaraeon y Brifysgol, Lee Tregoning:

“Rydyn ni’n falch dros ben o Ken am roi o’i amser gwerthfawr i fod yn rhan o staff hyfforddi Gareth ar gyfer Clwb Rygbi’r Dynion. Mae e wedi cefnogi’r Brifysgol ar lawer o bethau yn y gorffennol ac mae hon yn enghraifft arall ohono’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y mae’n ei chynrychioli. Mae’r chwaraewyr yn gyffrous dros ben am weithio gyda Ken wrth symud ymlaen. Mae cael rhywun cystal ag e i weithio gyda’n myfyrwyr hefyd yn bluen fawr yn het yr Academi Chwaraeon.”

Y tîm rygbi myfyrwyr yn ymarfer o dan hyfforddiant Ken Owens.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau