Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona
Croeso i fyd cyffrous y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona. Mae ein rhaglenni sydd â ffocws proffesiynol yn cynnig cyfle i weithio’n agos gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Dewch i wybod mwy am ein gradd mewn Eiriolaeth sy’n eich grymuso chi ac eraill.
Ymgollwch mewn addysg sydd â ffocws proffesiynol a fydd yn mynd y tu hwnt i ddulliau traddodiadol. Mae ein rhaglenni cyfraith, troseddeg a phlismona yn cynnig profiad ymarferol ynghyd â chysylltiadau cymunedol ac yn y diwydiant, a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cewch brofiad ymarferol trwy wirfoddoli gyda’r heddlu, mewn carchardai neu gyda chwmnïau cyfreithiol. Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau amrywiol yn y system cyfiawnder troseddol, gan sicrhau bod ein cyrsiau yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr.
Dywedwch ffarwel wrth ddulliau addysgu traddodiadol wrth i ni gofleidio ffyrdd arloesol o ddysgu. Mae ein hamgylchedd cefnogol yn sicrhau cymorth academaidd a bugeiliol. Cewch fynediad i nifer fawr o lwybrau gyrfa, gyda llawer o fyfyrwyr yn ymuno â’r heddlu, y gwasanaethau cyfreithiol, neu’n dilyn cyrsiau gradd Meistr. Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol trwy gyfrwng lleoliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd i rwydweithio. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o gymuned lewyrchus.
Rydym yn ymfalchïo yn ein dull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan gynnig dulliau addysgu a dysgu arloesol sy’n rhoi’r grym i chi lywio eich addysg eich hun. Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i fodloni gofynion y diwydiant a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori mewn maes sy’n datblygu’n gyflym.
Efallai nad yw eiriolaeth yn gwrs gradd gyfarwydd, ond mae’n cynnig cyfle unigryw i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i sefyll dros gyfiawnder. Yn PCYDDS, rydym yn falch o fod yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig y math hwn o radd eiriolaeth. Mwynhewch y posibiliadau a ddaw o’r opsiynau i astudio ar y campws, ar-lein a thrwy ddulliau cyfunol gydag addysgu cydamserol i ganiatáu i fyfyrwyr rannu a thrafod.
Trwy astudio eiriolaeth, byddwch yn dod o hyd i’ch llais eich hun, yn meithrin dealltwriaeth ddofn o gydraddoldeb fel y mae’n berthnasol i unigolion, ac yn magu’r hyder i frwydro yn erbyn anghyfiawnder. Mae llawer o’n graddedigion yn dod yn eiriolwyr proffesiynol i elusennau a sefydliadau, yn dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol neu’n sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain.
Pam astudio'r Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn PCYDDS?
Spotlights
Cyfleusterau
-
Efelychiadau safle’r drosedd
-
Chwarae rôl
-
Mynediad i ystafelloedd Hydra gyda Heddlu Dyfed Powys
-
Ystafelloedd trochi
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.