Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn noddi’r Parth Creadigol a Digidol yng Nghynhadledd Dinas Abertawe eleni. Mae’r digwyddiad blynyddol yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth.

Yr Athro Ian Walsh yn annerch y gynhadledd.

Mae’r gynhadledd, a lansiwyd yn 2019, yn gyfle mawr i fanwerthwyr, busnesau rhanbarthol, prosiectau cymunedol a sefydliadau dielw yn Abertawe i godi eu proffil a gwneud cysylltiadau. Denodd digwyddiad y llynedd – y cyntaf i’w gynnal yn Arena Abertawe – dros 120 o arddangoswyr a thros 2500 o gynadleddwyr.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerdydd: “Fel un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU o ran datblygu’r sgiliau lefel uchel sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiannau digidol a chreadigol,  mae’r Drindod Dewi Sant yn hynod falch o noddi’r  Parth Creadigol a Digidol yng Nghynhadledd Dinas Abertawe eleni.”

Mae gwahoddiad i fusnesau, ymgyrchwyr, cyflogwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Abertawe, i fynychu’r digwyddiad eleni, a fydd yn cynnwys diweddariadau a chyhoeddiadau ar brosiectau cyfredol ac yn y dyfodol i wella’r ddinas, ynghyd â chyfle i glywed gan yr arweinwyr meddwl a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lunio dyfodol Abertawe.

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal gan 4theRegion, cynghrair o aelodau sy’n gweithio i sicrhau newid cadarnhaol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4theRegion: “Rydym yn falch iawn o lansio’r Gynhadledd Canol Dinas eleni, sy’n argoeli bod y mwyaf a’r gorau eto. Y llynedd gwelwyd bod Arena newydd Abertawe yn lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad, felly rydym yn falch o ddychwelyd yno am yr ail flwyddyn.

“Bydd y Gynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas yn dod â phawb sy’n uchelgeisiol am ddyfodol Abertawe, o entrepreneuriaid i bobl greadigol, gweledyddion ac ymgyrchwyr, at ei gilydd. Mae’n gyfle i wneud cysylltiadau, dathlu cryfderau ac asedau niferus Abertawe, a helpu llunio’r weledigaeth am ddyfodol ffyniannus a llwyddiannus.”

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae’r digwyddiad hwn yn dathlu popeth sy’n dda am Abertawe, o’n busnesau lleol gwych i’r prosiectau mawr sy’n trawsnewid y ddinas.

“Mae’r cyfuniad o’n busnesau ac entrepreneuriaid ynghyd â’r adfywio sydd naill ai wedi’i gwblhau, ar y gweill neu yn yr arfaeth, yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i daro’n ôl yn sgil effaith economaidd y pandemig.

“Golyga buddsoddi mawr gan y sectorau cyhoeddus a phreifat fod datblygiadau eisoes ar waith gan gynnwys 71/72 Ffordd y Brenin, adeilad Theatr y Palas, Neuadd Albert, yr hwb cymunedol yn yr hen BHS, yr adeilad Bioffilig a llawer mwy, gan adeiladu ar Arena Abertawe a phrosiectau eraill sydd eisoes wedi’u cyflawni.

“Mae prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys gwelliannau mawr i Gerddi Sgwâr y Castell a thrawsnewid lleoliadau megis y Ganolfan Ddinesig a hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

“Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023 yn galluogi busnesau a sefydliadau i rwydweithio, codi eu proffil a darganfod rhagor am y cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a fydd yn darparu dinas sy’n cyfuno cyfleusterau o’r radd flaenaf gyda swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i fodloni dyheadau pawb.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau