Skip page header and navigation

Cynhelir Cynhadledd ac Aduniad Cyn-fyfyrwyr Peirianneg ar gampws Abertawe Prifysgol Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 10 Chwefror i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr trwy alluogi iddynt gael clywed yn uniongyrchol gan raddedigion PCYDDS am y cyfleoedd o fewn y diwydiant.

Golygfa allanol o Adeilad IQ: pedwar llawr o frics a gwydr gyda baneri glas y Drindod Dewi Sant.

Bydd y digwyddiad yn adeilad IQ y Brifysgol, sy’n dechrau am 9.30am, yn galluogi graddedigion i rannu eu sgiliau, eu harbenigedd a’u profiadau gyda myfyrwyr, a bydd sesiynau holi ac ateb hefyd.

Meddai Abi Summerfield, uwch ddarlithydd: “Dyma gyfle gwych i glywed am y dilyniant gyrfa y gall ein graddedigion ei gyflawni a sut y mae PCYDDS wedi bod yn hollbwysig i’r swyddi hyn o fewn y diwydiant.”

Bydd y cyn-fyfyrwyr sy’n siarad yn cynnwys:

Ross Pollard, prif beiriannydd datblygu ym Mahle PowertrainBuzz Truman, sylfaenydd, a Phrif Swyddog Gweithredol Arc Vehicle

Will Gray a James Hewer, pennaeth Pwerwaith yn Gordon Murray Design a Phennaeth Siasïau yn Gordon Murray Design, yn eu trefn.Sam Mayers, Rheolwr Trosi Cymeradwyaeth Ford Pro

Charlotte White, rheolwr gweithrediadau digwyddiadau yn BRSCCTiegen Lillicrap, Cydlynydd, Rheoli Rhaglenni Prosiect yn Toyota Gazoo Racing

Justin Morden, Uwch Beiriannydd Aerodynameg yn Tata Motors European Technical CentreFranceso Cavallu, Peiriannydd Data yn Red Bull KTM Ajo Mort 2

Will Hunt, Rheolwr Gweithredol, Systemau Pwerwaith Bentley Motors Ltd

Graddiodd Tiegen Lillicrap â gradd BEng anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro o PCYDDS yn 2019. Bellach wedi’i lleoli yng Nghologne, mae’n gweithio gyda thîm rasio buddugol Le Mans, Toyota Gazoo Racing Europe – gan oruchwylio’r gwaith cynllunio prosiect a chydlynu sawl prosiect ar draws ystod o bynciau, a chanolbwyntio fwyaf ar brosiectau’n ymwneud â chydrannau a dylunio cyfansawdd.  

Roedd gan Tiegen, sy’n hanu o Ddyfnaint, ddiddordeb brwd mewn chwaraeon moduro erioed, felly roedd astudio’r cwrs penodol hwn yn PCYDDS yn Abertawe’n ffordd berffaith o gyfuno ei hoffter o’r chwaraeon ag ennill cymhwyster academaidd.

“Mae fy nheulu cyfan yn dwli ar chwaraeon moduro ac o ganlyniad rydw i wedi ymddiddori ynddo ers pan oeddwn i’n fach,” meddai Tiegen.

“Rydw i hefyd yn archwiliwr Motorsport UK cymwys – yn gweithio ar gyfer corff llywodraethu Chwaraeon Moduro Prydeinig. Felly, roedd cael y cymwysterau angenrheidiol er mwyn gwneud cynnydd pellach yn y diwydiant yn gwneud synnwyr perffaith,” ychwanega.

“Ac rydw i mor falch o fod yn rhan ohono. O’m profiad i, chwaraeon moduro yw un o’r meysydd prin ble mae pobl yn cael eu trin yn gyfartal. Mae pawb yn cael chwarae teg a’r car sy’n cyfrif!”

Dywedodd Tiegen, a astudiodd Fathemateg, Ffiseg a Ffrangeg i Safon Uwch, ei bod hi wedi cofrestru yn PCYDDS oherwydd bod gan y Brifysgol enw gwych ym maes chwaraeon moduro.

“Roedd 21 myfyriwr ar ein cwrs, ac roedden ni’n dîm gwych a chlos. Roedd ein tiwtor Tim Tudor yn gefnogaeth wych drwyddi draw. Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs ac yn dweud wrth unrhyw ddarpar fyfyrwyr sy’n ei ystyried – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gweithio’n galed, gan weithio’n galetach yn yr ail flwyddyn yn enwedig, gan ei fod yn gwneud y drydedd flwyddyn yn haws. A mwynhewch.

“Mae’r lleoliadau’n anhygoel, cefais dreulio 6 wythnos yn Historic Motorsport Southwest Ltd – gan fy nghaniatáu i roi’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu ar waith yn ogystal â chael cipolwg go iawn ar y gwaith sydd ei angen i lwyddo. Mae rhwydweithio o fewn y diwydiant yn bwysig hefyd. Ewch ati, dewch i adnabod pobl yn y diwydiant.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau