Skip page header and navigation

Bydd Dr Liz Walder o’r Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd yn y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno’i hymchwil diweddaraf yn Eurovisions 2024: y gynhadledd sy’n dod â chefnogwyr, gweithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr yr Eurovision Song Contest at ei gilydd.  Cynhelir y gynhadledd ym Malmo, Sweden ar 7 a 8 Mai. 

Dr Liz Walder standing in front of a glass door.

Bydd papur Liz, “In every corner of the world”: unpacking the influence of the Eurovision Song Contest on the architecture of our cities, yn ymddangos yn y ‘Science Slam’ yn Eurovisions. 

Mae’n ddarn o ymchwil newydd lle mae Liz yn agor y drws ar ei dau gariad mawr: pensaernïaeth (a dylunio), ac Eurovision. Daw’r teitl o eiriau’r gân Love Shine a Light gan Katrina and the Waves, a enillodd yr Eurovision Song Contest ar ran y DU yn 1997. 

Mae’r gynhadledd yn rhoi sylw i bapurau am y meddwl academaidd ac anacademaidd ynghylch y gystadleuaeth, yn ogystal â chyfrannu at gryfhau maes astudiaethau Eurovision.  Mae’n cwmpasu ystod o bynciau bob blwyddyn sydd â chysylltiad ag Eurovision.

Eleni, Dr Walder yw’r unig gynrychiolydd Prydeinig yn y Science Slam, felly mae’n hedfan y faner dros y DU a Phensaernïaeth yn Eurovisions 2024.

Meddai Dr Walder: “Nid oes unrhyw ymchwil wedi bod i’r berthynas rhwng pensaernïaeth ac Eurovision, felly mae’r pwnc yn barod i’w ymchwilio. Rydw i wedi dwlu ar wylio Eurovision dros y blynyddoedd a bellach mae gen i gyfle i rannu fy nghariad a gwybodaeth am yr amgylchedd adeiledig â phobl eraill ar draws y byd, yn Eurovision a thu hwnt.  Pwy a ŵyr beth a ganfyddaf drwy f’ymchwil!” 

Mae Dr Walder MA FRSA MCIPR hefyd yn Arweinydd Cyfathrebu, Effaith ac Ymgysylltu yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru.  Cyhoeddwyd ei PhD am Fedal Aur Brenhinol Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn 2019. 

Mae hi wedi cyhoeddi ynghylch anghydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith derbynwyr prif ddyfarniadau a gwobrau pensaernïol (Going for Gold, 2018) a bydd ei gwaith ar Fenywod o Gymru sy’n Benseiri (o’r 1960au ymlaen) yn cael ei gynnwys yn y Bloomsbury Global Encyclopedia of Women in Architecture, 1960 – 2015, sydd i’w gyhoeddi yn 2024 yn gyhoeddiad dwy gyfrol (copi caled) a digidol. 

Hefyd mae Dr Walder yn un o raddedigion campws Llambed y Brifysgol, gan fod ei gradd gyntaf yn BA (Anrh) mewn Hanes yr Hen Fyd ac Archaeoleg. 

I gael gwybod mwy am ymchwil Dr Walder (a gwylio cyflwyniadau eraill yn Science Slam Eurovisions 2024), gallwch wylio’r fideos yma: https://www.eurovisions.eu/science-slam-2024 a phleidleisio am eich hoff gyflwyniad yma:  http://tweedback.de/z7wb 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon