Skip page header and navigation

Mae Debby Mercer, o Lambed, ymhlith y nifer cynyddol o fyfyrwyr ledled y DU sydd wedi dechrau eu busnes eu hunain.

Debby Mercer working with wool

Mae ffigurau diweddar a ryddhawyd gan yr Arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch, Busnes a Chymuned (HE-BCI) yn dangos bod 4,908 o fusnesau newydd wedi’u sefydlu mewn prifysgolion ledled y DU yn 2022-23, sydd 3.5% yn uwch na’r blynyddoedd blaenorol. Dim ond i’r busnesau hynny a gafodd gymorth uniongyrchol gan y Brifysgol y mae’r ffigurau’n berthnasol a derbyniodd Debby gefnogaeth o’r fath gan staff Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesedd, Ymchwil a Menter (INSPIRE) y Brifysgol.

Mae Debby, sydd wedi graddio’n ddiweddar gyda’r BA yn y Celfyddydau Breiniol, yn astudio Sgiliau Menter yn PCYDDS ar hyn o bryd. Datblygodd ei busnes o’i diddordeb mewn gwau a nyddu gan ganolbwyntio ar edafedd a gafwyd yn lleol ac wedi’i brosesu. Mae’n gweithio’n agos gyda ffermwyr lleol a Melin Wlân Curlew Weavers i greu cynnyrch sy’n arddangos bridiau defaid Cymreig traddodiadol. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae Debby hefyd yn cynnal gweithdai nyddu a ffeltio nodwyddau yn y gymuned leol.

“Rwyf wedi cael cymaint o gefnogaeth ac anogaeth gan staff a chyd-fyfyrwyr yn y Brifysgol. Roedd y gweithdai ffeltio nodwydd cyntaf i mi eu cynnal yn rhan o fy interniaeth gyda menter Tir Glas y Brifysgol. Roedd y cyfle i gynnal y gweithdai hyn gyda chefnogaeth y brifysgol wedi helpu datblygu’r gweithdai, ac yr wyf yn bwriadu eu cynnal gydag ysgolion lleol i annog sgyrsiau cadarnhaol am wlân.  Mae’r ffaith bod fy edafedd yn 100% o fridiau brodorol Cymreig ac wedi’i gynhyrchu’n lleol wedi agor cyfleoedd felly cadwch lygad am rai cydweithrediadau gwlanog yn y dyfodol!”

Mae Tîm Menter y brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau newydd, y rhan fwyaf ohono wedi’i ysbrydoli gan, ac wedi’i gynllunio ar y cyd â chyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd a’i gefnogi gan fenter Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae llwyddiant eu gwaith wedi gweld y Brifysgol yn cael ei henwi’r sefydliad addysg uwch sy’n perfformio orau yn y DU ar gyfer busnesau newydd â graddedigion sy’n dal i fod yn weithgar ar ôl 3 blynedd (894) ac sydd hefyd yn gyntaf ar gyfer nifer y busnesau gweithredol (1,056) yn Arolwg HE-BCI.

Yr arolwg yw’r prif gyfrwng ar gyfer mesur maint a chyfeiriad y rhyngweithio rhwng darparwyr addysg uwch y DU a busnes a’r gymuned ehangach. Mae hanes balch gan y Brifysgol am ei haddysg entrepreneuraidd a menter a dyfarnwyd teitl Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn iddi yng ngwobrau Triple E 2022. 

Mae’r safle arobryn diweddaraf hwn yn rhoi sylw nid yn unig i’r cymorth cychwynnol y mae’r myfyrwyr yn ei gael ond hefyd i’r perthnasoedd parhaus sy’n cael eu meithrin rhwng cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol a staff y Brifysgol. Mae graddedigion entrepreneuraidd y Brifysgol yn arweinwyr yn eu meysydd priodol ac maent yn rhannu eu harbenigedd a’u profiadau’n hael, gan greu rhwydwaith bywiog, cefnogol sy’n sbarduno dysgu a llwyddiant parhaus. 

Mae’r ffigurau diweddaraf yn fwy na rhifau’n unig; maen nhw’n adlewyrchu calon ac enaid ein cymuned,” meddai’r Athro Kathryn Penaluna, Athro Addysg Fenter, Pennaeth Menter, a Chyfarwyddwr yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn. “Mae ein darlithwyr ymroddedig a thimau proffesiynol yn gwneud mwy na lansio busnesau newydd; maen nhw’n ymgymryd â pherthnasoedd gydol oes â’n graddedigion.  Nid yn unig y mae’r cysylltiadau parhaus hyn yn helpu busnesau newydd i ffynnu, maen nhw hefyd yn dod â chipolwg gwerthfawr ar y byd go iawn yn ôl i’n hystafelloedd dosbarth. 

“Rydym ni’n falch dros ben o’n cyn-fyfyrwyr, sy’n cyfrannu’n sylweddol i’r brifysgol a’r gymuned fusnes ehangach. Gyda mwy na 1,000 o entrepreneuriaid llwyddiannus yn gysylltiedig â PCYDDS, mae’u bodlonrwydd i roi yn ôl a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes yn wir yn ysbrydoli. 

“Mae arnom ddyled aruthrol o ran diolch i’n cyn-fyfyrwyr. Mae’u cyfraniadau’n hollbwysig o ran ein helpu i gynnal ein safle arweiniol mewn addysg fusnes a llwyddiant entrepreneuraidd.”

Mae PCYDDS yn parhau i fod yn ymroddedig i feithrin amgylchedd lle mae profiad ymarferol a gwybodaeth academaidd yn croestorri’n ddi-dor, gan wella addysg myfyrwyr a deilliannau entrepreneuraidd. 


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon