Skip page header and navigation
Date(s)
-

Dosbarth Meistr Staen Arian ac Enamel

Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe yn falch o gyhoeddi sesiwn yr hydref o ddosbarthiadau meistr peintio gwydr arbenigol gan Jonathan Cooke

Mae’r dosbarth meistr peintio gwydr yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o beintio gwydr. Bydd Jonathan yn arddangos ac yn addysgu ei dechnegau, ac yn trafod deunyddiau, offer ac amseroedd tanio. Fe fydd digon o amser i gyfranogwyr ymarfer, cynhyrchu samplau a chreu darnau gorffenedig ar eu dyluniadau eu hunain. 

Bydd dosbarth meistr ychwanegol ar gael sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio enamel a staeniau arian: archwilio deunyddiau a thechnegau i’w defnyddio’n bennaf mewn peintio gwydr traddodiadol, gan ddefnyddio casgliad o staeniau, enamelau tryloyw ac anhryloyw, amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau cymysgu, systemau cymhwyso a thanio i gyflawni effeithiau a chanlyniadau gwahanol. 

Ffioedd: £330

Lleoliad

UWTSD Swansea College of Art
Alex Building
Alexandra Road
Swansea
SA1 5DX
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn