Skip page header and navigation
Back of graduation gown showing University crest

Cadwch mewn cysylltiad

Croeso i holl raddedigion y Drindod Dewi Sant a’n sefydliadau rhagflaenol. Ble bynnag rydych chi yn eich gyrfa a ble bynnag rydych chi yn y byd, byddwn bob amser eisiau clywed am sut rydych chi’n dod ymlaen.  

Rydym yn falch o’r gymuned fyd-eang ysbrydoledig hon sydd wedi derbyn graddedigion ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rydym am rannu eich straeon, dathlu eich llwyddiannau, a’ch cadw mewn cysylltiad.

Un o’r ffyrdd gorau o gadw mewn cysylltiad yw drwy darllen y cyfathrebiadau y byddwn yn eu hanfon atoch. Cyn belled â bod gennym eich gwybodaeth wedi’i diweddaru, byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda newyddion, diweddariadau a gwahoddiadau trwy e-gylchlythyrau. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yma trwy ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n hystafell newyddion.

O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn gofyn i chi gyfrannu at ein cefnogi trwy weithgareddau amrywiol megis darparu astudiaethau achos neu ddarlithoedd gwadd. Os hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni.

Diweddaru eich Manylion

Rydym yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaeth ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr.

Student sitting down on his laptop

Mae croeso cynnes yn aros i chi bob amser yn ôl ar y campws lle gwnaethoch astudio. Boed yn ddigwyddiadau hyfforddi neu rwydweithio, ffeiriau gyrfaoedd, neu aduniadau, rydym wrth ein bodd yn gweld cyn-fyfyrwyr a staff yn dal i fyny.

Alumni at a reunion event

Mae'r arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy'n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Group of students hugging at their graduation

Efallai y byddech yn disgrifio eich amser yma fel rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd, felly beth am wneud hynny'n realiti i eraill drwy roi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol.

people sitting down at an Alumni presentation
Image of University of Wales Alumni magazine cover

Eich Cylchgrawn Cyn-fyfyrwyr

‘Perthyn’ yw’r cylchgrawn blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a’n holl sefydliadau rhagflaenol. Yn y cylchgrawn hwn fe ddewch o hyd i’r newyddion a datblygiadau diweddaraf wrth y Drindod Dewi Sant yn y flwyddyn ddiwethaf – ei champysau, gwaith ymchwil a graddedigion. Lawr lwythwch gopi digidol neu archebwch gopi am ddim trwy’r post.

Bathodyn PCYDDS ar gefn gŵn

Anrhydeddu ein gorffennol

Heddiw, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw ein henw ond mae llawer iawn o hanes i’r sefydliad hwn, a gwnaiff y tîm cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr wastad anelu at anrhydeddu hyn drwy ddathlu datblygiadau’r gorffennol a’r dyfodol. Dysgwch fwy am ein sefydliadau rhagflaenol ar ein tudalen Hanes a Llinell Amser. 

Mae ein tîm Casgliadau Arbennig ac Archifau hefyd yn coffáu’r hanes helaeth hwn drwy arddangosfeydd corfforol ag ar-lein, ac mae archifau rhai o’n colegau rhagflaenol yn cael eu cadw gan y tîm ar gampws Llambed. Cysylltwch â nhw a’ch ymholiadau neu os hoffech ymweld a’r archifiau.

Cyn-fyfyrwyr yn y Newyddion

Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau

Angen cael gafael ar eich trawsgrifiad, llythyr cadarnhau dyfarniad, neu dystysgrif newydd? Cysylltwch â’r Gofrestrfa. Byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at wyth wythnos i dderbyn eich tystysgrif.

  • Os na chynhyrchwyd y Dystysgrif/Diploma a roddwyd i chi gan y Brifysgol hon (neu’r colegau a’i rhagflaenodd), bydd angen i chi gysylltu â’r Bwrdd Arholi a gyhoeddodd y dystysgrif yn y lle cyntaf (BTEC, Edexcel, PC, UWE, City & Guilds, CBAC ayyb) am un arall. Dim ond copïau o dystysgrifau a gyhoeddwyd gan y Brifysgol hon (neu’r colegau a’i rhagflaenodd) y gallwn eu rhoi.​ Os ydych yn chwilio am gadarnhad eich bod wedi derbyn tystysgrif neu ddiploma, gweler y manylion i wneud cais am Drawsgrifiad, sydd hefyd yn berthnasol i geisiadau am Gadarnhau Dyfarniadau neu Bresenoldeb.​ Sylwch na all unrhyw sefydliad ddarparu unrhyw dystysgrif HND/HNC/OND/ONC a gyhoeddwyd cyn creu BEC a TEC (BTEC yn ddiweddarach), gan nad yw’r Cyrff Dyfarnu a gyhoeddodd y tystysgrifau hynny’n bodoli mwyach. Os gwnaethoch fynychu a derbyn un o’r cymwysterau hyn cyn 1980, dylech wneud cais am lythyr cadarnhau, nid tystysgrif arall.

    • Tystysgrifau ar gyfer Dyfarniadau Prifysgol Cymru

    Dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd Prifysgol Cymru yn cyhoeddi tystysgrifau newydd.  Gellir cael manylion am yr amgylchiadau hynny a ffurflen gais ar wefan Prifysgol Cymru

    • Tystysgrifau a Diplomâu BTEC rhwng Ionawr 1983 a Mai 2005

    Gellir cael tystysgrifau newydd oddi wrth Pearson

    • Tystysgrifau CBAC

    Gellir cael tystysgrifau newydd oddi wrth CBAC

    • Tystysgrifau City and Guilds

    Gellir cael tystysgrifau newydd oddi wrth City and Guilds 

    • Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) (neu Bristol Polytechnic)

    Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd UWE yn cyhoeddi tystysgrifau newydd. 

    • CNAA

    Y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol [CNAA] oedd y corff dyfarnu graddau unigol mwyaf yn y Deyrnas Unedig nes iddo gael ei ddiddymu gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 y DU.  Derbyniodd Gwasanaethau Dilysu’r Brifysgol Agored (OUVS) y cyfrifoldeb am ofalu am rai o gofnodion penodol CNAA a’u cynnal ac am ddarparu mynediad priodol iddynt. Er nad yw’n bosibl i OUVS, nac unrhyw gorff arall, ddarparu tystysgrifau na chyhoeddi copïau dyblyg o dystysgrifau neu gopïau newydd o dystysgrifau yn ymwneud â dyfarniadau CNAA, mae’n cynnig dogfen ddilysu Profforma mewn fformat tebyg i dystysgrif dyfarnu.  Gwybodaeth bellach.

    • Tystysgrifau/Diplomâu a gynhyrchwyd gan y Brifysgol

    Dim ond o dan yr amgylchiadau a nodir isod y byddwn yn rhoi tystysgrifau newydd.  Nid yw colli tystysgrif dros dro yn cael ei ystyried yn sail ddigonol ar gyfer cael copi newydd. 

    • Caniateir ceisiadau am dystysgrifau newydd ar yr amod bod y myfyriwr yn cyflwyno datganiad wedi’i lofnodi yn cadarnhau bod y dystysgrif wreiddiol naill ai wedi’i cholli neu wedi ei dinistrio. Codir ffi o £30.00 (yn cynnwys TAW a phostio). Dylid gwneud sieciau yn daladwy i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’u cyflwyno i’r Gofrestrfa ar gampws Abertawe, ynghyd â ffurflen wedi’i chwblhau a’i llofnodi.​
    • Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol o 1 Ebrill 2012:
      • Ffioedd Safonol (gan gynnwys TAW ar y gyfradd briodol a thâl postio ail ddosbarth)
      • Tystysgrif Newydd (un yn unig) £30.00
      • Ffioedd Ychwanegol (gan gynnwys TAW ar y gyfradd briodol a thâl postio ail ddosbarth)
      • Postio dramor £5.00
      • Os yw’n cael ei anfon/ei hanfon trwy gwmni cludo £30.00 fesul cyfeiriad
    • Os yw tystysgrif wedi’i difrodi, dylid dychwelyd y dystysgrif i’r Gofrestrfa ar gampws Abertawe ac, yn ôl disgresiwn y Gofrestrfa, bydd un newydd yn cael ei chyhoeddi yn rhad ac am ddim.
    • Bydd tystysgrifau newydd yn cael eu hanfon o fewn 28 diwrnod gwaith o dderbyn y datganiad wedi’i lofnodi ar y ffurflen atodedig.
  • (DS: Os ydych chi’n chwilio am dystysgrif newydd, edrychwch ar y canllawiau ar gyfer ‘Copi Newydd o Dystysgrif/Diplomâu’)

    Mae myfyrwyr yn cael trawsgrifiad academaidd/Atodiad Diploma fel mater o drefn ar ddiwedd eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd un copi yn cael ei roi yn rhad ac am ddim i bob myfyriwr pan fyddan nhw wedi cwblhau eu hastudiaethau. Fodd bynnag, codir ffi am gopïau ychwanegol neu gopïau newydd.

    Bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen Gais am Drawsgrifiad/Cadarnhau Dyfarniad/Presenoldeb, sy’n cynnwys manylion am yr holl ffioedd a’r opsiynau o ran sut i dalu amdanynt. Bydd hefyd yn gofyn i chi ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i ni fedru rhoi’r dogfennau i chi. Fodd bynnag, cyn i chi lenwi’r ffurflen, darllenwch y nodiadau isod. 

    Cais am Gopi o Drawsgrifiad Terfynol/ Cadarnhau Dyfarniad/ Presenoldeb

    • Rhoddir un copi o’ch trawsgrifiad terfynol (cofnod llawn eich astudiaeth academaidd) am ddim gan y Gofrestrfa ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen astudio (drwy Atodiad Diploma) neu ar ôl i chi dynnu’n ôl o’ch rhaglen astudio os byddwch yn gwneud cais amdano. 
    • Gallwch wneud cais am gopïau ychwanegol o’ch trawsgrifiad terfynol trwy ddilyn y drefn a nodir isod. Rhaid talu gyda’ch archeb. Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen ar gyfer Trawsgrifiadau Academaidd a chyflwyno’r ffi gywir cyn y gellir darparu’r dogfennau.
    • Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol o 1 Medi 2012:
      • Ffioedd Safonol (gan gynnwys TAW ar y gyfradd briodol a thâl postio ail ddosbarth)
      • Copi Cyntaf (Dyfarniad Hydref 2005 neu wedi hynny) £10.00
      • Copi Cyntaf (Dyfarniad Medi 2005 neu cyn hynny) £30.00
      • Copïau Ychwanegol (os ydych yn eu harchebu ar yr un pryd) £5.00 y copi
      • Ffioedd Ychwanegol (gan gynnwys TAW ar y gyfradd briodol a thâl postio ail ddosbarth)
      • Postio dramor am £5.00
      • Os yw’n cael ei anfon i fwy nag un cyfeiriad £5.00 am bob cyfeiriad ychwanegol
      • Os yw’n cael ei anfon trwy gwmni cludo £30.00 fesul cyfeiriad
    • Fel arfer, bydd yn cymryd hyd at 3 wythnos i dderbyn eich trawsgrifiad, unwaith y bydd eich ffurflen wedi’i derbyn a’i phrosesu; gan dybio bod eich taliad yn clirio ar unwaith.​
    • Os buoch yn astudio yma yn 2000 neu cyn hynny, efallai y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser i’w brosesu. Ni all Prifysgol Fetropolitan Abertawe warantu bod cofnodion Athrofa Addysg Uwch Abertawe, Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, Coleg Technoleg Abertawe, Coleg Celf Abertawe na Choleg Addysg Abertawe ar gyfer blwyddyn eich dyfarniad wedi goroesi. Mae cofnodion y Coleg Celf, yn benodol, yn dameidiog iawn, ac efallai nad yw holl gofnodion y coleg ar gyfer y blynyddoedd 1981-1987 yn bodoli.​ Nid oes modd ad-dalu’r ffi chwilio.
    • Nid yw bob amser yn bosibl darparu dadansoddiad llawn o farciau unigol neu %, gan fod rheoliadau rhai byrddau arholi yn gwahardd hyn, ac mewn achosion o’r fath, nid yw’r wybodaeth honno bob amser ar gael yng nghofnodion yr Archif.​ Mewn achosion fel hyn, byddwch yn cael canlyniad cyffredinol a bydd marciau modiwlau’n cael eu dangos fel P(asio), T(eilyngdod) neu Rh(agoriaeth).
    • Os mai dim ond cadarnhad o’r dyfarniad a gawsoch a’r dyddiadau y buoch yn bresennol yr hoffech ei gael, bydd hyn yn cael ei wneud trwy lythyr ‘I Bwy Bynnag a Fynno Wybod’, ar bapur pennawd Prifysgol Fetropolitan Abertawe.​ Mae llythyrau o’r fath yn cael eu cydnabod yn gyffredinol fel cadarnhad eich bod wedi ennill cymhwyster penodol, ar adeg benodol, ond nid ydynt yn cael eu cydnabod fel tystysgrifau. Os ydych wedi colli eich tystysgrif neu ddiploma, dylech wneud cais am un newydd. Gweler Ffurflen Gais Prifysgol Fetropolitan Abertawe am Gopi o Dystysgrif Newydd/Diploma am fanylion llawn.​
    • Gellir casglu Trawsgrifiadau/Llythyrau os byddwch yn rhoi gwybod i ni ymlaen llaw, neu byddant yn cael eu hanfon drwy’r post.​
    • Os byddwch yn darganfod bod darpar gyflogwr, Prifysgol neu sefydliad addysgol arall neu gorff allanol arall (e.e. Gwasanaeth Mewnfudo Awstralia) yn gofyn am fanylion y rhaglen neu gynnwys y modiwl(au), yn ogystal â’r manylion a gofnodwyd ar y trawsgrifiad, cysylltwch â Swyddfa Cofnodion ac Archifau’r Brifysgol. Os ydynt ar gael, gellir darparu manylion ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni, er y codir tâl am hyn (gweler isod).​ Gall materion hawlfraint ein hatal rhag darparu’r ddogfen gyfan, ond gellir darparu manylion maes llafur a modiwl.​
    • Manylion Maes Llafur/Cynnwys y Rhaglen/Modiwlau £25.00 fesul set
  • Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, ffôn neu’r post: 

    Swyddog Cyn-fyfyrwyr  

    Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Caerfyrddin 

    Ffordd y Coleg 

    Caerfyrddin 

    SA31 3EP 

    alumni@pcydds.ac.uk

    07850 321687

  • Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Cyn-fyfyrwyr Llambed yn benodol drwy e-bost neu’r post:

    Swyddog Cyn-fyfyrwyr

    Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Llambed 

    Ceredigion 

    SA48 7ED 

    lampeteralumni@pcydds.ac.uk