Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gynnal Ffair Yrfaoedd yn Abertawe sy'n cysylltu myfyrwyr â chyfleoedd ar gyfer datblygiad
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi ei Ffair Yrfaoedd nesaf, a gynhelir dydd Iau, 25 Ebrill yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.
Wedi’i threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant, nod y ffair yw meithrin cysylltiadau rhwng myfyrwyr, graddedigion a cholegau sy’n gysylltiedig â’r Drindod Dewi Sant, ac amrywiaeth o gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli, mae’r ffair wedi’i chynllunio i wella cyflogadwyedd, yn enwedig yn ystod yr haf a thu hwnt.
Dywedodd Mel Cameron, Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant:
“Rydym yn credu’n gryf yng ngwerth profiad gwaith ac yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd personol o ansawdd uchel i’n holl fyfyrwyr. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy a geir yn yr amgylcheddau hyn nid yn unig yn gwella rhagolygon ond hefyd yn grymuso unigolion i roi cynnig ar bethau newydd a chyrraedd eu nodau.”
Mae manylion y digwyddiad fel a ganlyn:
|
Cyflogwyr a Sefydliadau
Mae cwmnïau a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi’u cadarnhau hyd yma ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys Stadiwm Principality, Tŷ Hafan, DVLA, Celtic Manor a St John Ambulance Cymru.
Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn mynychu fel arddangoswyr gysylltu â m.cameron@uwtsd.ac.uk
Myfyrwyr a Chyn-fyfyrwyr
Mae’r ffair yn agored i fyfyrwyr o bob cwrs a champws, gan gynnwys myfyrwyr o golegau sydd mewn partneriaeth a’r Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chyn-fyfyrwyr y Brifysgol.
Bydd Ymgynghorwyr Gyrfa y Drindod Dewi Sant hefyd ar gael ar y diwrnod i helpu gyda chwestiynau ar ysgrifennu CV, paratoi cyfweliad, a mwy. Ac os hoffech gefnogaeth i baratoi ar gyfer y ffair, cysylltwch â careers@pcydds.ac.uk
Darganfyddwch sut y gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant helpu cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr â phob agwedd o ddatblygu gyrfa: Gwasanaeth Gyrfaoedd | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996