Skip page header and navigation

XIX Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol (ICML)

Cynhelir XIX Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol yng Nghymru rhwng 20 a 24 Mehefin 2023.

Mae cofrestru bellach ar gau.

Cynhelir XIX Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol yng Nghymru rhwng 20 a 24 Mehefin 2023. Mae’n ddeng mlynedd ar hugain ers i’r ICML gael ei chynnal yma ddiwethaf, lle cyflwynwyd un o’r prif areithiau gan yr Athro Joshua Fishman.

Dros y tri degawd diwethaf, mae tirwedd ieithoedd lleiafrifol, fel y’u gelwir, wedi newid yn ddramatig: mae heriau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, technolegol ac amgylcheddol wedi trawsnewid cyd-destunau  amrywiaeth ieithyddol byd-eang. Mae cymunedau ieithoedd rhanbarthol, lleiafrifol neu leiafrifiedig mewn gwahanol rannau o’r byd yn parhau i wynebu amrywiaeth o ffactorau ac amgylchiadau: gall eu peuoedd ehangu yn ogystal â lleihau, gall eu poblogaethau mewn niferoedd neu ganrannau gynyddu yn ogystal â gostwng, mae’r patrymau defnydd dyddiol yn cymhlethu ac mae eu siaradwyr yn byw mewn amgylcheddau sy’n gynyddol amlieithog a symudol mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Ac eto, yn aml iawn, mae’r fframweithiau sosioeconomaidd, technolegol, diwylliannol a gwleidyddol ehangach yn blaenoriaethu paradeimau a ffyrdd o weithio uniaith. Mae gweithgareddau ac ymdrechion cymunedol – fel y pwysleisiwyd yng ngwaith Fishman ei hun – yn parhau i fod yn adnoddau pwysig i nifer o ieithoedd lleiafrifol mewn meysydd mor amrywiol ag addysg, technoleg, y cyfryngau, gweinyddiaeth gyhoeddus, masnach, datblygu economaidd a strwythurau gwleidyddol ehangach.   

Yn ogystal â chynnig ystod eang o bapurau academaidd, paneli a phosteri, nod ICML 2023 yw cyflwyno profiad sosioieithyddol penodol o’r Gymru gyfoes i gyfranogwyr. Cynigir hefyd gwybodaeth fanwl am astudiaethau achos sy’n seiliedig ar ymarferwyr, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a meithrin cysylltiadau. Mae ein partneriaeth Cymru gyfan ar gyfer ICML 2023 yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid sy’n chwarae rhan allweddol mewn adfywio iaith yng Nghymru.  

Skip to Main Content News Quick Links Cymraeg UWTSD Logo Study About Student Life International Research Alumni TYPE & HIT ENTER.. UWTSD Home - Newsroom - Events - XIX International Conference on Minority Languages (ICML) XIX International Confere

  • Cyflwyno papurau

    Caniateir 15-20 munud ar gyfer pob papur, gydag amser ychwanegol ar gyfer cwestiynau. Gofynnir i chi rannu eich cyflwyniad Pwerbwynt gyda ni cyn nos Iau 15 Mehefin drwy ebostio canolfan@cymru.ac.uk. Bydd angen i gynnwys eich Pwerbwynt fod yn ddwyieithog. Os ydych yn cyflwyno yn y Gymraeg, cofiwch rannu copi o’ch sgript/nodiadau cyn y diwrnod cyflwyno er mwyn inni ei rannu gyda’r cyfieithydd. 

    Amserlen

    Cynhelir Cynhadledd ICML 2023 rhwng 20 i 24 Mehefin 2023 yng Nghaerfyrddin.

    • Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023 – Bydd y ddesg gofrestru ar agor rhwng 2pm-9pm yn ffreutur Myrddin ar gampws y Brifysgol. Rhowch wybod inni os byddwch yn cyrraedd ar ôl 9pm er mwyn inni wneud trefniadau ar eich cyfer. Bydd bar ar agor am ddiodydd rhwng 6pm-9pm, a rhennir gwybodaeth cyn hir am fwytai cyfagos. 
    • Dydd Mercher 21 Mehefin – Diwrnod 1 – Cynhadledd lawn - 9.00am i 6.00pm. Band a bwyd gyda’r hwyr.
    • Dydd Iau 22 Mehefin – Diwrnod 2 – Cynhadledd lawn – 9.00am i 6.00pm. Bwyd ac adloniant gyda’r hwyr.
    • Dydd Gwener 23 Mehefin – Diwrnod 3 – Cynhadledd lawn – 9.00am i 6.00pm. Bwyd gyda’r hwyr, a dangosiad arbennig o ffilm ‘Y Sŵn’ yn theatr Canolfan S4C Yr Egin. Dyma ffilm unigryw am un o benodau mwyaf lliwgar yn hanes cyfoes y genedl – y frwydr am sianel deledu Gymraeg. Cyfle i gymdeithasu wedi hynny.
    • Dydd Sadwrn 24 Mehefin - Taith ddewisol i Sain Ffagan 10.00 - 3.00. Bydd bws yn dod yn ôl i Gaerfyrddin. Mae Sain Ffagan 20 munud yn y car o Faes Awyr Caerdydd er gwybodaeth. Mae ambell le dal ar ôl - cysylltwch cyn hir os hoffech gadw lle. 

    Llety ar y Safle

    Mae’r Brifysgol yn cynnig ei Llety i Fyfyrwyr ar y safle i gynadleddwyr ICML am 4 noson o nos Fawrth 20 Mehefin i fore Sadwrn 24 Mehefin. Pris Gwely a Brecwast yw £210 y pen. Bydd ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

    Croeso i gynadleddwyr drefnu eu llety eu hunain yn nhref Caerfyrddin neu’r cyffiniau. Gweler Teithio i Gaerfyrddin ar gyfer manylion teithio lleol i’r campws isod.

    Teithio i Gaerfyrddin

    Ceir gwybodaeth am eich taith a pharcio ar wefan y Brifysgol. Rhaid cofrestru eich car wrth gofrestru ar fore’r gynhadledd - cewch God QR gan drefnwyr y gynhadledd.

    Cynhelir y Gynhadledd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin – Canolfan Halliwell a Chanolfan S4C Yr Egin.

  • Cynhelir Cynhadledd ICML 2023 rhwng 20-24 Mehefin 2023 yng Nghaerfyrddin. 

    • Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023 – Bydd y ddesg gofrestru ar agor rhwng 2pm a 9pm yn ffreutur Myrddin ar gampws y Brifysgol. Rhowch wybod inni os byddwch yn cyrraedd ar ôl 9pm er mwyn inni wneud trefniadau ar eich cyfer. Bydd bar ar agor am ddiodydd rhwng 6pm-9pm, a rhennir gwybodaeth cyn hir am fwytai cyfagos. 
    • Dydd Mercher 21 Mehefin – Diwrnod 1 – Cynhadledd lawn - 9.00am i 6.00pm. Band a bwyd gyda’r hwyr.
    • Dydd Iau 22 Mehefin – Diwrnod 2 – Cynhadledd lawn – 9.00am i 6.00pm. Bwyd ac adloniant gyda’r hwyr.
    • Dydd Gwener 23 Mehefin – Diwrnod 3 – Cynhadledd lawn – 9.00am i 6.00pm. Bwyd gyda’r hwyr, a dangosiad arbennig o ffilm ‘Y Sŵn’ yn theatr Canolfan S4C Yr Egin. Dyma ffilm unigryw am un o benodau mwyaf lliwgar yn hanes cyfoes y genedl – y frwydr am sianel deledu Gymraeg. Cyfle i gymdeithasu wedi hynny.
    • Dydd Sadwrn 24 Mehefin - Taith ddewisol i Sain Ffagan 10.00 i 3.00. Bydd bws yn dod yn ôl i Gaerfyrddin. Mae Sain Ffagan 20 munud yn y car o Faes Awyr Caerdydd er gwybodaeth. Mae ambell le dal ar ôl – cysylltwch cyn hir os hoffech gadw lle. 
    • Elin Haf Gruffydd Jones – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Cadeirydd)
    • Catrin Llwyd – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 
    • Josu Amezaga – University of the Basque Country  
    • Edorta Arana – University of the Basque Country 
    • Durk Gorter – University of the Basque Country 
    • Cor van der Meer – Fryske Akademy  
    • Enrique Uribe-Jongbloed – Prifysgol Caerdydd  
    • Craig Willis – European Centre for Minority Issues / Europa Universität Flensburg 
    • Catrin Redknap - Llywodraeth Cymru 
  • Mae’r galwad am bapurau bellach wedi cau.